Skip to main content

Canva ar gyfer Cynnwys Digidol Creadigol

Rhan-amser, GCS Training
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod y gweithdy ymarferol diwrnod-llawn hwn yw helpu oedolion i fagu hyder wrth ddefnyddio Canva ar gyfer gwaith pob dydd, prosiectau a syniadau. Mae’n ddiwrnod rho gynnig arni yn hytrach na sesiwn ‘eistedd a gwrando’, gyda digon o amser i archwilio, rhoi cynnig ar bethau a gofyn cwestiynau heb deimlo eich bod yn cael eich rhuthro.

Byddwn ni’n dechrau gyda chyflwyniadau gan eich tywys trwy osodiad ac offer Canva, cyn symud ymlaen i dempledi, elfennau ychwanegu a golygu, a gwneud i ddyluniadau edrych yn glir ac yn broffesiynol heb gorfeddwl amdanynt. Wrth i’r diwrnod symud yn ei flaen, byddwn ni hefyd yn edrych ar rai o nodweddion mwy defnyddiol Canva a sut gall offer AI helpu i gyflymu pethau.

Sut all Canva fod yn ddefnyddiol:

Drwy gydol y dydd, byddwn ni’n rhoi enghreifftiau a gweithgareddau sy’n dangos sut y gallwch ddefnyddio Canva ar gyfer pethau pob dydd, fel:

  • Cyflwyniadau a sleidiau sy’n edrych yn broffesiynol
  • Posteri a thaflenni, cyrsiau, ymgyrchoedd neu hysbysfyrddau
  • Graffigwaith y cyfryngau cymdeithasol a fideos syml
  • Taflenni, gweithlenni a phecynnau gwybodaeth
  • Ffeithluniau i esbonio syniadau neu ddata yn glir
  • Tystysgrifau, gwahoddiadau a deunyddiau hyrwyddo
  • Brandio sylfaenol fel logos, patrymau lliw a gosodiadau cyson
  • Dogfennau syml ar gyfer cyfathrebu mewnol neu wybodaeth ar gyfer y cyhoedd.
Erbyn diwedd y dydd, bydd cyfranogwyr yn:
  • Teimlo’n hyderus wrth lywio Canva a gosod dyluniadau o’r dechrau neu o dempledi
  • Gwybod sut i greu ac addasu dyluniadau ar gyfer printio, a defnydd digidol a sgrin
  • Gallu ychwanegu, golygu a threfnu elfennau, testun a delweddau’n effeithiol
  • Deall pa nodweddion Canva sy’n wirioneddol ddefnyddiol a phryd i’w defnyddio
  • Cael cyflwyniad ymarferol i offer AI Canva a sut y gallan nhw arbed amser
  • Gadael gydag offer a sgiliau i’w defnyddio yn syth.
I bwy mae’r gweithdy?

Mae’r sesiwn hon yn addas i oedolion sy’n gweithio yn unrhyw sector a fyddai’n elwa ar greu cynnwys gweledol clir a diddorol. Gallai hyn gynnwys addysg, sefydliadau cymunedol, elusennau, busnesau bach, timau digwyddiadau, rolau gweinyddol, neu unrhyw un y mae angen iddo rannu gwybodaeth yn weledol yn rheolaidd.

Mae’r sesiwn hon ar gyfer dechreuwyr ac nid oes angen cefndir dylunio. Os oes gennych lythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol ac yn fodlon arbrofi, cewch yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithdy hwn. Caiff cyfranogwyr eu hannog i ddod â gliniadur gyda nhw, ac os yw’n bosibl, syniad neu ddarn o gynnwys yr hoffen nhw weithio arno yn ystod y dydd.

Gwybodaeth allweddol

Gwybodaeth o ddefnyddio offer digidol.

Addysgir y gweithdy hollol ymarferol hwn wyneb yn wyneb ar Gampws Llys Jiwbilî. Bydd dysgwyr yn gweithio yn Canva drwy gydol y dydd yn hytrach na gwylio arddangosiadau.

Mae’r sesiwn yn cyflwyno beth yw Canva, sut y gallwch ei ddefnyddio, a sut i gymhwyso offer a nodweddion yn effeithiol. Bydd dysgwyr yn archwilio templedi, offer dylunio, a nodweddion defnyddiol (gan gynnwys AI), a defnyddio’r rhain i greu a datblygu eu dyluniadau eu hunain yn ystod y sesiwn.

Mae cymorth ar gael drwy gydol y sesiwn a bydd dysgwyr yn gadael gyda mwy o hyder wrth ddefnyddio Canva a dyluniadau y gallan nhw barhau i’w defnyddio a’u haddasu ar ôl y gweithdy.

Edrych ar gyrsiau eraill yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel Diwrnodau Darganfod Digidol mewn:

  • AI a Chynhyrchedd yn y Gweithle
  • Cydweithredu a Chyfathrebu Digidol
  • Offer AI a Digidol am ddim ar gyfer Addysg
  • Hygyrchedd Digidol
  • Cynnwys Digidol Creadigol.

Cyrsiau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel:

  • Cwrs byr Llythrennedd Digidol Lefel 2 (2 ddiwrnod)
  • Cwrs byr Llythrennedd Digidol Lefel 3 (5 diwrnod)
  • Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2
  • Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 3.

Tystysgrif bresenoldeb. 

Dewch â’ch gliniadur eich hun os yw’n bosibl, fel y gelli di ddefnyddio a chofrestru ar gyfer offer digidol ar eich dyfais eich hun. Os nad oes gliniadur gennych, gallwn ddarparu un. 

Canva for Creative Digital Content
Cod y cwrs: YA344 SJ9
03/06/2026
Llys Jiwbilî
1 day
Wed
9.30am - 4.30pm
£0
Canva for Creative Digital Content
Cod y cwrs: YA344 SJ11
08/07/2026
Llys Jiwbilî
1 day
Wed
9.30am - 4.30pm
£0