Skip to main content

Rheolaeth Adeiladu - Diploma Cenedlaethol Uwch (Cymhwyster Ychwanegol i’r Dystysgrif)

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 5
HND
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff dyfarnu: Pearson

Pearson BTEC Logo

Ydych chi’n barod wedi cwblhau HNC neu CertHE  mewn Rheolaeth Adeiladu ac yn barod i gwblhau’r Diploma?

Gallwch gwblhau’r cymhwyster ychwanegol (un diwrnod yr wythnos) hwn i symud o Lefel 4 i Ddiploma Cenedlaethol Uwch Pearson llawn. Mae hefyd ar gael fel prentisiaeth.

Mae Rheolwyr Adeiladu yn cydlynu ac yn rheoli gweithgareddau safle, gan ddod â phenseiri, peirianwyr, rheolwyr masnachol ac arbenigwyr safle at ei gilydd i drawsnewid cysyniad adeiladu yn realiti. Mae angen i reolwyr adeiladu feddu ar sgiliau rheoli prosiectau a phobl, y gallu i reoli risg ac i ddatrys problemau yn greadigol.

Ar Lefel 5, yn hytrach na dysgu sut i gymhwyso egwyddorion rheoli adeiladu, byddwch yn dysgu sut i'w harwain. Byddwch yn rheoli prosiectau a rhaglenni: cynllunio, adnoddau a rheoli cynlluniau cymhleth; gweithio trwy weithdrefnau cytundebol a chaffael rheolaeth fasnachol. Byddwch hefyd yn mynd i'r afael ag adeiladu cynaliadwy a'r cyfyngiadau ehangach sy'n siapio prosiectau go iawn. Byddwch yn defnyddio popeth rydych chi'n ei ddysgu mewn prosiect grŵp lle byddwch chi'n ymchwilio i broblem go iawn, datblygu a gwerthuso eich ateb eich hun.

Trwy gwblhau'r cymhwyster ychwanegol hwn, byddwch yn sicrhau HND llawn, sy'n cyfateb i ddwy flynedd gyntaf gradd BEng mewn Rheolaeth Adeiladu. Mae'n agor ystod o ddrysau o ran rolau adeiladu ar safle a rolau swyddfa, a byddwch yn adeiladu sgiliau cynllunio, masnachol a rheoli pobl sy'n angenrheidiol ar gyfer rolau rheoli safle. Gallwch hefyd ychwanegu at flwyddyn olaf BEng, gan symud ymlaen i MEng.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bach, rhyngweithiol gan arbenigwyr a fydd yn defnyddio dulliau addysgu a fydd yn cynnwys astudiaethau achos yn y byd go iawn. Byddwn ni yn gweithio gyda chi fel unigolyn i sicrhau eich bod yn derbyn cymorth sgiliau penodol, boed hynny'n cynyddu hyder mathemategol, sgiliau cyflwyno neu sgiliau ysgrifennu ffurfiol. Mae cynnwys y rhaglen yn cael ei ddewis gan Banel, gyda chynrychiolwyr yn cynnwys Andrew Scott, Tai Tarian a chyflogwyr lleol a chenedlaethol eraill. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn dulliau dysgu cyfoes sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.

Pa Ddiploma Cenedlaethol Uwch (DCU) ddylwn i ei hastudio?

Mae dau lwybr ar gyfer y Diploma Cenedlaethol Uwch, dewiswch yr un sy’n gweithio i chi:

  1. Rheolaeth Adeiladu - Diploma Cenedlaethol Uwch (Cymhwyster Ychwanegol i’r Dystysgrif) - Os ydych chi eisiau rhedeg prosiectau, bydd y cwrs yma yn dysgu sgiliau cynllunio i chi a byddwch yn darganfod sur i ddod â gwahanol dimau at ei gilydd ar brosiectau adeiladu. Byddwch yn dysgu sut i gyflawni prosiect ar amser (ar gyllideb) a sut i reoli risg.
  2. Peirianneg Sifil - Diploma Cenedlaethol Uwch (Cymhwyster Ychwanegol i’r Dystysgrif) - Os ydych chi'n mwynhau cymhwyso mathemateg a gwyddoniaeth i broblemau go iawn, mae’r cwrs hwn yn ffordd o adeiladu'r wybodaeth dechnegol i sydd ei angen arnoch i greu prosiectau peirianneg sifil.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn rhan-amser ac fel prentisiaeth.

Gwybodaeth allweddol

Rydym yn cydnabod cymwysterau ffurfiol a/neu brofiad gwaith perthnasol fel llwybrau mynediad i’r cwrs HNC Rheolaeth Adeiladu.

Mae gofynion mynediad nodweddiadol yn cynnwys HNC mewn Rheolaeth Adeiladu neu faes perthnasol fel Adeiladu, Peirianneg, neu Fusnes.

Fel arall, byddwn yn croesawu eich cais os oes gennych brofiad gwaith perthnasol yn y diwydiant adeiladu a’ch bod yn gallu dangos hyfedredd mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar a sgiliau rhifedd da.

Darparwch gopïau o’ch tystysgrifau academaidd neu dystiolaeth o brofiad gwaith wrth wneud cais. Bydd ein tîm Derbyn yn adolygu pob cais yn ofalus i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs.

Addysgir y cwrs hwn drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai ymarferol, a phrosiectau grŵp. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos, ac ymweliadau â safleoedd i weld rheolaeth adeiladu ar waith. Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn mynd â chi drwy gynnwys y cwrs, gan ddarparu cymorth ac adborth cynhwysfawr.

Modiwlau (Lefel 5):

  • Prosiect Grŵp
  • Rheoli Prosiect
  • Datblygiad Proffesiynol Personol
  • Lluniadu a Manylu Adeiladu Uwch
  • Technoleg Adeiladu ar gyfer Prosiectau Adeiladu Cymhleth
  • Dulliau Adeiladu Cynaliadwy
  • Rheoli Costau a Gwerth Peirianneg
  • Deunyddiau Uwch.

Asesu:

Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau gwaith cwrs, gwaith ymarferol a chyflwyniadau. Mae meini prawf graddio wedi’u hamlinellu’n glir yn llawlyfr y cwrs, gan roi modd i chi ddeall y disgwyliadau a’r meini prawf ar gyfer pob asesiad.

Mae cwblhau’r cwrs Diploma Genedlaethol Uwch Ychwanegol mewn Rheolaeth Adeiladu yn agor y drws i ystod o gyfleoedd dilyniant ar gyfer eich gyrfa.

Mae llawer o rolau lefel mynediad a rolau dan hyfforddiant ym meysydd adeiladu yn derbyn yr HNC fel eu cymhwyster sylfaenol.

Mae’r cymhwyster HND hwn yn rhoi modd i chi fanteisio ar rolau fel:

  • Goruchwyliwr Safle Uwch (Ystod cyflog £28,000 i £35,000)
  • Rheolwr Prosiect (ystod cyflog £28,000 i £35,000).

Ar ôl cwblhau’r cwrs, gallwch ddilyn cymhwyster lefel uwch fel Gradd mewn Rheolaeth neu faes cysylltiedig.

Wrth i chi ennill profiad ac arbenigedd neu drwy ddysgu pellach, gallwch symud ymlaen i swyddi fel Rheolwr Adeiladu, Rheolwr Prosiect, neu Reolwr Contractau (ystod gyflog £40,000-£60,000).

Costau’r cwrs:

£2,340* y flwyddyn ond mae hefyd ar gael trwy lwybr prentisiaeth. I gael gwybodaeth am gymorth ariannol - gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu - ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Hyd y cwrs:

Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd ar Gampws Tycoch.

Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi. Cynhelir y dosbarthiadau rhwng 9am a 5pm ar ddydd Mawrth.

Ffioedd ychwanegol:

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Prynu esgidiau diogelwch
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

*Gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.