Skip to main content

Cyflwyniad i Ddal Carbon

GCS Training
Lefel 3
Arall
Un diwrnod

Trosolwg

Mae dal carbon bellach yn ganolog i strategaeth Sero Net y DU ac mae’n nodwedd bwysig mewn parthau datgarboneiddio diwydiannol. Mae’r cwrs hwn yn helpu i ddatblygu gweithlu sy’n gallu gweithredu, cynnal a chadw ac ymgysylltu â systemau dal carbon. Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, rhaid i borthladdoedd rhydd sydd â diwydiannau ynni dwys gyflogi technegwyr sy’n ymwybodol o CCUS, sef dal, defnyddio a storio carbon.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Cyflogwyr, a gweithwyr proffesiynol peirianneg ac ynni.
 

Gwybodaeth allweddol

Addysgu yn yr ystafell ddosbarth wedi’i ategu gan astudiaethau achos a thrafodaeth grŵp.

Cynnwys y cwrs:

  • Y Porthladd Rhydd Celtaidd ac alinio sgiliau
  • Egwyddorion CCUS
  • Mathau o dechnoleg dal carbon
  • Cludo CO₂ a’i storio’n ddaearegol
  • Defnydd diwydiannol o garbon wedi’i ddal
  • Ystyriaethau diogelwch ac amgylcheddol
  • Fframweithiau rheoleiddio
  • Astudiaethau achos prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol.

  • Technolegau adnewyddadwy a charbon isel
  • Hyfforddiant ar systemau hydrogen
  • Llwybrau datgarboneiddio diwydiannol
  • Datblygiad proffesiynol parhaus yn y sectorau peirianneg ac ynni.