Skip to main content

Siarter Dysgwyr

RhifynMehefin 2026
Dyddiad AdolyguMehefin 2029
AwdurMarcus Westmoreland, Pennaeth Profiad y Dysgwr
Cymeradwywyd y Polisi ganUwch Dîm Arwain – 18.06.2026
Fersiwn3.1
CategoriCyhoeddus

 

Cyflwyniad a Chwmpas

Mae Siarter Dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn nodi’r hyn y disgwylir i holl ddysgwyr y Coleg ei ddilyn a chadw ato. Yn gyfnewid am hyn, bydd y Coleg yn anelu at ddarparu addysg, profiadau, hyfforddiant, lles, cymorth a chyfleoedd o’r ansawdd uchaf.  Felly, mae'r Siarter yn ymrwymiad a rennir rhwng dysgwyr a'r coleg, lle mae'r ddau yn gweithio gyda'i gilydd i greu amgylchedd sy’n hybu.

Diffiniadau Allweddol

Coleg Gŵyr Abertawe – Y Coleg

Dysgwyr – Holl ddysgwyr amser llawn, rhan-amser, prentisiaethau, addysg uwch, neu gleientiaid cyflogadwyedd.

Y Siarter

Mae Coleg Gŵyr Abertawe o’r farn bod addysg yn newid bywydau. Felly, mae addysgu, dysgu a chymorth yn dod yn gyntaf.

Mae’r Coleg yn cydnabod tri gwerth craidd ar gyfer dysgwyr ac maent yn sail i’r siarter hon:

  • Bod yn barchus
  • Bod yn barod
  • Bod yn ddiogel

Fod yn Barchus

Mae parch yn ymwneud â sut rydyn ni'n trin ein gilydd a sut rydyn ni'n creu diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys ac yn gallu mynegi eu hunain yn llwyr.

Disgwylir i ddysgwyr:

  1. Ymddwyn mewn ffordd barchus, ystyrlon a chynhwysol tuag at bob aelod o gymuned y Coleg.
  2. Peidio â chymryd rhan mewn unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu, gan werthfawrogi cymuned amrywiol y Coleg.
  3. Cydnabod a pharchu ffiniau personol, gan gynnwys deall ymddygiad a chydsyniadau cysylltiedig.
  4. Cymryd rhan mewn sgyrsiau chefnogol ac ystyriol er mwyn cefnogi cyfeillgarwch a pherthnasoedd positif trwy fyfyrio ar eich gweithredoedd eich hun, ystyried sut maen nhw'n effeithio ar eraill a gwrando ar safbwyntiau eraill yn astud.
  5. Peidio â thorri neu ddifwyno eiddo, cyfleusterau ac adnoddau’r Coleg.
  6. Ymddwyn yn briodol ac ystyriol mewn mannau cymunedol o fewn y Coleg trwy ddefnyddio iaith barchus, cadw mannau a rennir yn lân, rheoli lefelau sŵn, a bod yn ymwybodol o eraill.
  7. Tacluso deunyddiau neu ysbwriel sy’n ymddangos o ganlyniad o weithgareddau addysgol / dysgu gan ddefnyddio’r biniau ailgylchu addas lle bo angen.
  8. Peidio ag ysmygu na defnyddio e-sigarets ar safle’r coleg nac unrhyw dripiau a drefnir gan y coleg (oni bai am ardaloedd ysmygu dynodedig)
  9. Cydymffurfio â’r Siarter Dysgwyr y tu allan i’r Coleg gan fod yn llysgenhadon cadarnhaol ar gyfer y coleg.
  10. Peidio â gwisgo dillad a fydd yn debygol o ddigio aelod o gymuned y coleg.
  11. Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau’r Coleg (mae’r rhain i’w gweld ar y wefan a’r pyrth dysgwyr). 

Bod yn Barod

Disgwylir i ddysgwyr:

  1. Mynychu pob dosbarth, arholiad, apwyntiad, sesiwn profiad / lleoliad gwaith ac unrhyw ymrwymiadau addysgu eraill yn brydlon, gan roi gwybod i staff perthnasol os ydych yn debygol o fod yn hwyr neu’n absennol.
  2. Bod yn barod ar gyfer yr holl weithgareddau dysgu drwy fod â’r adnoddau a’r offer perthnasol a thrwy wisgo dillad addas ar gyfer y gweithgareddau rydych chi’n ymgymryd â nhw.
  3. Cwblhau’r holl waith wedi’i osod gan staff y Coleg erbyn y dyddiadau a gytunwyd, a hyd eithaf eich gallu.
  4. Dweud wrthym yn syth os ydych eisiau cymorth pellach neu os yw’ch statws iechyd corfforol neu feddwl yn newid, fel y gallwn gynnig y cymorth gorau posib i chi.
  5. Dangos ymrwymiad, proffesiynoldeb a chyfrifoldeb am gyflawni llwyddiant a chynnydd trwy eich rhaglen ddysgu.

Bod yn Ddiogel

Mae teimlo'n ddiogel yn cynnwys diogelwch corfforol a lles emosiynol.

Disgwylir i ddysgwyr:

  1. Gwybod sut a ble i riportio unrhyw achos o drais, aflonyddu, bwlio neu gamdriniaeth rydych chi neu aelodau eraill o gymuned y coleg yn ei brofi.
  2. Cyrchu cymorth os ydych chi’n teimlo’n anniogel neu os oes angen help arnoch chi.
  3. Cydymffurfio ag asesiadau risg er mwyn eich helpu chi neu eraill i gadw’r coleg yn ddiogel ac i hyrwyddo lles positif.
  4. Cofio gwisgo’ch laniard Coleg bob amser tra byddwch ar y campws.
  5. Peidio â gamblo yn y Coleg.
  6. Cydymffurfio â pholisïau iehcyd a diogelwch a gweithdreefnau gweithio’n ddiogel yn unol â chyfarwyddyd y coleg neu staff sy'n gysylltiedig â gwaith.
  7. Hysbysu’r Coleg ar ddechrau’ch cwrs/lleoliad am unrhyw Angen Dysgu Ychwanegol neu gymorth corfforol, meddygol, emosiynol sydd ei angen arnoch (neu cyn gynted ag sy’n bosibl os oes angen newid eich cymorth).
  8. Defnyddio systemau TG y Coleg yn briodol ac yn unol â’n Polisi Defnydd Derbyniol o TG.
  9. Rhoi gwybod i’r Coleg am unrhyw newidiadau i’ch manylion personol.
  10. Peidio byth â dod â, defnyddio, neu werthu cyffuriau/sylweddau anghyfreithlon neu arfau peryglus neu alcohol ar safleoedd y Coleg neu ar leoliad gwaith na bod o dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol yn y Coleg neu ar leoliad gwaith. 

Mae'r Siarter yn rhan o fywyd bob dydd yn y coleg. Bydd yn cael ei gyflwyno trwy sesiynau tiwtorial, gweithgareddau lleisio barn ar gyfer dysgwyr, sianeli digidol a rhyngweithiadau o ddydd i ddydd, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddeall, ei gydnabod a'i gymhwyso'n gyson.

Ymrwymiad y Coleg

I gydnabod ymrwymiad dysgwyr i’r tri gwerth a nodwyd: Bod yn Barchus, Bod yn Barod a Bod yn Ddiogel, mae'r coleg yn ymrwymo i:

  1. Meithrin lleoliad diogel, calonogol a chynhwysol sy'n parchu amrywiaeth.
  2. Darparu manylion cywir i chi am eich cyrsiau dewisol gan sicrhau rhaglen astudio addas sy’n bodloni eich gofynion.
  3. Cydnabod eich anghenion dysgu unigol (e.e. Anghenion Dysgu Ychwanegol, darpariaeth Gymraeg) a chynnig  cymorth priodol i hwyluso proses bontio llyfn i’r coleg.
  4. Gosod targedau ystyrlon a heriol sy'n cefnogi eich taith tuag at wireddu eich potensial llawn.
  5. Meithrin perthynas waith bositif gyda chi wedi'i seilio ar barch.
  6. Darparu negeseuon clir a phrydlon ar faterion sy'n effeithio ar eich profiadau fel dysgwr coleg.
  7. Darparu'r lefel uchaf posib o addysgu, dysgu ac asesu er mwyn eich ysgogi ac i sicrhau bod adnoddau ac offer dysgu ar gael ac yn gweithio.
  8. Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd ynghylch rhagolygon gyrfa a materion personol.
  9. Cynnig gwasanaethau cymorth cynhwysfawr ac o ansawdd uchel i oresgyn heriau dysgu, gan feithrin agweddau a sgiliau positif.
  10. Gwrando’n astud ar eich safbwyntiau a chymryd mesurau rhagweithiol i wella eich profiad yn y coleg.
  11. Cynnig ystod eang o gyfleoedd i wella eich sgiliau cyflogadwyedd, gan archwilio eich diddordebau a dilyn eich huchelgeisiau.
  12. Cydweithio â rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr a chyflogwyr er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich profiadau a'ch cyflawniadau fel dysgwr.

Beth sy'n digwydd os nad yw dysgwr yn cydymffurfio â’r Siarter Dysgwr?

Fel arfer, byddwn yn rhoi camau gweithredu ar waith yn erbyn y dysgwr yn unol ag amodau'r Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr.

Dogfennau Cysylltiedig

Mae polisïau’r Coleg a restrir isod yn enghreifftiau o ddogfennau cysylltiedig:

  1. Polisi Presenoldeb Myfyrwyr
  2. Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr
  3. Polisi Cyffuriau ac Alcohol
  4. Polisi Addasrwydd i Astudio
  5. Gweithdrefn Gweinyddu a Storio Meddyginiaeth
  6. Polisi Iechyd a Diogelwch
  7. Polisi Asesu a Chamymddwyn
  8. Strategaeth Addysgu ac Asesu Cymru
  9. Polisi Defnydd Derbyniol o TG
  10. Atodiadau Siarter Dysgwyr, Covid a Dysgu o Be

Yr Iaith Gymraeg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn unol â Safonau’r Iaith Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.