Skip to main content

Technegydd Peirianneg Electronig (Rhaglen Peirianneg Uwch) Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
EAL
Tycoch
Un blwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriad y cwrs Lefel 3 hwn yw rhoi mynediad i Raglen Prentisiaeth y Diwydiant Electroneg. Mae’n rhan o fframwaith prentisiaeth Cymru a ddefnyddir i hyfforddi prentisiaid ym maes electroneg.

Bydd myfyrwyr yn dysgu am gysyniadau sylfaenol electroneg gan gynnwys Autodesk Fusion, electroneg analog, electroneg ddigidol, roboteg, cyfrifiaduron, rhwydweithio, clyweled, PLC a phrosiectau pwrpasol.  

Trwy brosiectau ac ymarferion, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol gan ddefnyddio’r systemau electronig diweddaraf a datrys problemau o safon diwydiant go iawn.

Er mwyn gwella’r profiad dysgu ar ôl rhaglen hyfforddi gychwynnol o ddau fis bydd myfyrwyr yn dechrau lleoliad gwaith un diwrnod yr wythnos mewn cwmni electroneg. Bwriad hyn yw rhoi cyfle i’r myfyriwr a’r cyflogwr ddatblygu perthynas waith gref gyda’r posibilrwydd o brentisiaeth o fewn y cwmni.

Amcanion y cwrs:

  • Deall egwyddorion systemau electronig a’u cymwysiadau
  • Datblygu sgiliau datrys problemau a sgiliau meddwl beirniadol ar systemau electronig
  • Dylunio a gosod systemau electronig
  • Profiad gwaith wythnosol yn rheolaidd.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Bydd myfyrwyr yn gallu egluro cysyniadau sylfaenol systemau electronig a’u cymwysiadau
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dylunio systemau electronig  
  • Bydd myfyrwyr yn gallu gosod systemau electronig. 

Gwybodaeth allweddol

Pedair gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith. 

Pedwar diwrnod yr wythnos yn y Coleg ac un diwrnod yr wythnos yn y gwaith.

Asesu:

  • Arholiadau dewis lluosog
  • Aseiniadau ymarferol
  • Ysgrifennu adroddiadau.

Meini Prawf Graddio:

  • Arholiadau: 40%
  • Aseiniadau: 50%
  • Ysgrifennu adroddiadau: 10%.

Os byddwch yn cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, gallai arwain at brentisiaeth amser llawn. Mae’r sector hwn yn anhygoel o amrywiol gyda phrentisiaethau mewn:

  • Roboteg
  • Electroneg ddiwydiannol
  • Technegydd cyfrifiadurol
  • Technegydd clyweled
  • Electroneg feddygol
  • Technoleg cyfathrebu symudol
  • Technegydd deintyddol (systemau electronig)
  • Nwyddau gwyn
  • Nwyddau brown
  • Systemau electroneg tân a diogelwch.

Gall y cwrs arwain at yrfa lewyrchus yn y diwydiant electroneg.

Mae nifer o fyfyrwyr wedi cynrychioli Cymru a’r DU mewn cystadlaethau sgiliau. Mae’r cystadlaethau hyn yn galluogi myfyrwyr i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain. Mae’r tîm Electroneg yn falch o’n cyflawniadau gyda dysgwyr yn y maes hwn. Mae dysgwyr yn ennill medalau Aur, Arian ac Efydd yn gyson mewn cystadlaethau o’r fath.

Mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli’r Coleg yn y Gemau Olympaidd Sgiliau Rhyngwladol trwy lwybr WorldSkills International.

Mae myfyrwyr sydd wedi manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth wedi cael gyrfaoedd rhagorol yn y sector.