Skip to main content

Prentisiaeth Sylfaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol (L2)

Prentisiaeth
Lefel 2
Diploma
Tycoch
15 months
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs 15 mis hwn yn darparu dealltwriaeth o iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn rhoi modd i chi ganolbwyntio ar y meysydd canlynol: 

  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth
  • Cyfathrebu a chymhwyso rhif mewn lleoliadau gofal
  • Iechyd a lles

Diweddarwyd Rhagfyr 2019

Gwybodaeth allweddol

Cyflogaeth yn y sector am o leiaf chwe mis. Bydd lefel y dysgu yn dibynnu ar eich profiadau a’ch cyfrifoldebau sydd gennych yn eich swydd.

Byddwch yn dod i’r Coleg bob pythefnos drwy gydol y rhaglen (dau ddiwrnod y mis) gydag asesiadau parhaus yn y gweithle.

Astudiaethau pellach yn y brifysgol mewn pwnc cysylltiedig megis nyrsio. Dilyniant i gyrsiau lefel uwch megis y Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau (FfCCh). 

Mae dilyniant i’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Prentisiaeth) yn dibynnu ar gymeradwyaeth y cyflogwr gan fod rhaid i’r dysgwr fod yn gyflogedig mewn swydd uwch.