Skip to main content

Safon Uwch Y Gyfraith

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn cynnig archwiliad cyffrous o system gyfreithiol fodern Cymru a Lloegr, gan ddarparu ar gyfer unigolion sydd â diddordeb brwd mewn materion cyfoes. 

Yn y flwyddyn gyntaf, ar gyfer Uned 1 rydym yn canolbwyntio ar ffynonellau’r gyfraith, y systemau sifil a throseddol, a’r rolau amrywiol a gyflawnir gan broffesiynau cyfreithiol gan gynnwys barnwyr, ynadon, cyfreithwyr a bargyfreithwyr. Darperir cyflwyniad i gyfraith camwedd hefyd yn Uned 2. 

Yn yr ail flwyddyn, archwilir dau faes penodol o gyfraith sylwedd: hawliau dynol a chyfraith droseddol. Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais cryf ar gymhwyso egwyddorion cyfreithiol yn ymarferol trwy gwestiynau seiliedig ar senario, tra’n meithrin sgiliau dadansoddi a’r gallu i werthuso cyfreithiau yn feirniadol. 

Trwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn sefydlu sylfaen gadarn yn y gyfraith ac yn ennill y sgiliau academaidd angenrheidiol ar gyfer llwyddiant. Mae’r rhaglen yn blaenoriaethu datblygiad galluoedd datrys problemau, meddwl dadansoddol, a rhesymu beirniadol, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig effeithiol.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys gradd B mewn Saesneg Iaith a gradd B mewn pwnc arall seiliedig ar draethawd 
  • Mae ymwybyddiaeth o’r newyddion a materion cyfoes yn ddymunol hefyd.

Byddwch yn cael 4.5 awr o amser cyswllt yn yr ystafell ddosbarth bob wythnos. Bydd amrywiaeth o ddulliau dysgu fel darlithoedd, gwaith grŵp deinamig, ymchwil annibynnol a byddwch yn cymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau yn y dosbarth. 

Cewch eich asesu trwy arholiadau.

Blwyddyn 1: Uned 1 (25%), Uned 2 (15%) - 40% o’r radd Safon Uwch. 

Blwyddyn 2: Uned 3 (25%), Uned 4 (25%) - 60% o’r radd Safon Uwch.

Mae’r Gyfraith yn ymestyn y tu hwnt i’r rhai sy’n awyddus i fentro i’r proffesiwn cyfreithiol ac mae’n werthfawr i fyfyrwyr sy’n dilyn graddau cysylltiedig fel Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Troseddeg a Hanes. 

Trwy astudio’r Gyfraith, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt mewn amrywiol feysydd y tu hwnt i ffiniau gyrfaoedd cyfreithiol traddodiadol. Mae cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio’r Gyfraith mewn sefydliadau nodedig gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, Coleg y Brenin Llundain, Durham, Bryste, a Warwig.

Mae siaradwyr gwadd yn y blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr: yr Arglwydd Burnett o Maldon, swyddogion heddlu CID lleol yn ogystal â gweithwyr cyfreithiol proffesiynol o’r gymuned leol. 

Mae teithiau addysgol wedi cynnwys y Goruchaf Lys a Senedd y DU yn Llundain yn ogystal â llysoedd lleol a Senedd Cymru.