Skip to main content

Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Mae meysydd astudio blwddyn un yn cynnwys:

  • Hawliau a democratiaeth yn y DU
  • Etholiadau ac ymddygiad pleidleisio
  • Pleidiau gwleidyddol, carfanau pwyso a mudiadau
  • Sut mae Cymru a’r DU yn cael eu llywodraethu.

Mae meysydd astudio blwyddyn dau yn cynnwys:

  • Gwleidyddiaeth UDA - etholiadau, y Cyfansoddiad, pleidiau gwleidyddol a changhennau’r llywodraeth
  • Ideolegau megis ceidwadaeth, sosialaeth, comiwnyddiaeth, rhyddfrydiaeth a chenedlaetholdeb.

Yr amcanion allweddol yw:

  • Datblygu dealltwriaeth fanwl o wleidyddiaeth a llywodraeth yng Nghymru, y DU a’r byd
  • Meithrin gwerthfawrogiad o egwyddorion democrataidd
  • Gwella llythrennedd gwleidyddol a grymuso myfyrwyr i gymryd rhan weithredol mewn bywyd dinesig.

Erbyn diwedd y cwrs bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Ennill gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o lywodraeth a gwleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol
  • Dadansoddi systemau gwleidyddol a llywodraethol a gwahanol gysyniadau a damcaniaethau gwleidyddol
  • Ffurfio cysylltiadau, dadleuon a gwerthusiadau wedi’u rhesymu’n dda.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU
  • Mae gradd B mewn Saesneg Iaith a naill ai gradd B mewn Saesneg Llenyddiaeth neu radd B mewn pwnc sy’n ymwneud â’r Dyniaethau yn hanfodol
  • Brwdfrydedd dros ddysgu am wleidyddiaeth ac awydd i ddyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae llywodraeth yn gweithio
  • Ymwybyddiaeth o newyddion a materion cyfoes
  • Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r pwnc, mae’n hygyrch i fyfyrwyr o gefndiroedd academaidd amrywiol.

  • Mae hwn yn gwrs ystafell ddosbarth gyda 4.5 awr o amser cyswllt bob wythnos
  • Bydd pedair uned yn cael eu hastudio dros y ddwy flynedd, pob un yn cael ei hasesu gyda dau arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd pob blwyddyn
  • Addysgir gwersi trwy gyfuniad o ddarlithoedd, trafodaethau bywiog a gweithgareddau ysgogol
  • Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o’r pwnc, yn ogystal â’r gallu i ddehongli a chymhwyso a dadansoddi a gwerthuso, sef sgiliau a fydd yn cael eu hasesu a’u graddio yn eich arholiadau.

  • Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau gradd fel Gwleidyddiaeth, y Gyfraith, Cysylltiadau Rhyngwladol, Newyddiaduraeth, Polisi Cyhoeddus, Polisi Cymdeithasol, Hanes ac Economeg
  • Mae myfyrwyr sydd wedi dilyn y cwrs wedi mynd ymlaen i astudio mewn sefydliadau uchel eu parch fel Aberystwyth, Bryste, Caerdydd, Rhydychen, Caergrawnt, Coleg y Brenin Llundain, LSE ac Abertawe
  • Mae gwybodaeth o Lywodraeth a Gwleidyddiaeth yn ddefnyddiol iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd. Gall fod yn fan cychwyn gwych ar gyfer gyrfa mewn gwleidyddiaeth, pleidiau gwleidyddol a charfanau pwyso, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, y cyfryngau, newyddiaduraeth, gwaith cymdeithasol, y gyfraith, gwasanaethau cyhoeddus, busnes ac addysgu.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.