Skip to main content

Diploma Lefel 2 mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth

Amser-llawn
Lefel 2
UAL
Llwyn y Bryn
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae UAL Diploma Lefel 2 mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn gwrs blwyddyn diddorol sy’n cyflwyno myfyrwyr i fyd cyffrous cerddoriaeth. Mae’r rhaglen hon yn darparu sylfaen gadarn mewn technegau perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth. 

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn dysgu chwarae offerynnau cerdd, datblygu eu sgiliau lleisiol, ac archwilio hanfodion theori cerddoriaeth. Byddant hefyd yn cael profiad ymarferol mewn cynhyrchu cerddoriaeth, gan gynnwys recordio, cymysgu, a defnyddio meddalwedd o safon diwydiant. 

Dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ymarferol, cydweithio â’u cyfoedion, ac arddangos eu doniau trwy berfformiadau byw. Bydd y cwrs hwn yn gwella eu creadigrwydd, eu galluoedd technegol, a’u hyder fel cerddorion. 

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gan raddedigion ddealltwriaeth dda o berfformio a chynhyrchu cerddoriaeth, gan eu galluogi i ddilyn astudiaethau pellach ar Lefel 3 neu swyddi lefel mynediad yn y diwydiant cerddoriaeth. 

Gwybodaeth allweddol

  • Pedair gradd D neu uwch ar lefel TGAU 
  • Clyweliad (rhaid bod dysgwyr yn gallu chwarae offeryn neu ganu). 

Rhaid i chi basio wyth uned (dim arholiadau). 

Gradd yr uned derfynol fydd Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth (hon fydd eich gradd ar gyfer y flwyddyn).

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn symud ymlaen i’r cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Perfformio Cerddoriaeth (cwrs dwy flynedd) yn Llwyn y Bryn. 

Mae ffi stiwdio £50 ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn talu am yr holl adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn.