Skip to main content

Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
UAL
Llwyn y Bryn
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae UAL Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn gwrs dwy flynedd cynhwysfawr a dwys ar gyfer myfyrwyr sy’n frwd dros ddilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’r rhaglen ddwy flynedd hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau perfformio cerddoriaeth a thechnegau cynhyrchu cerddoriaeth. 

Mae’r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys theori cerddoriaeth, sgiliau perfformio byw, meddalwedd cynhyrchu cerddoriaeth, technegau recordio, a busnes cerddoriaeth a marchnata. Bydd gan fyfyrwyr fynediad at gyfleusterau ac offer o’r radd flaenaf, a byddant yn cael eu haddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol a gwybodus yn y diwydiant. 

Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gymhwyso eu dysgu trwy brosiectau ymarferol a pherfformiadau byw. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd myfyrwyr wedi ennill y sgiliau angenrheidiol i lwyddo mewn amrywiaeth o rolau o fewn y diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys fel perfformwyr, cynhyrchwyr, a pheirianwyr sain. 

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i chi basio 13 uned (dim arholiadau); wyth yn y flwyddyn gyntaf a phump yn yr ail flwyddyn. 

Graddau’r unedau terfynol am y ddwy flynedd fydd Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth (hon fydd eich gradd ar gyfer pob blwyddyn). 

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn symud ymlaen i gyrsiau prifysgol, ac mae rhai yn sicrhau swyddi yn y diwydiant cerddoriaeth. 

Mae ffi stiwdio £75 ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn talu am yr holl adnoddau sydd eu hangen yn ystod y cwrs.

Explore in VR