Skip to main content

Ffotograffiaeth - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
OCR
Llwyn y Bryn
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bwriad y cwrs Diploma Lefel 3 mewn Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth) gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yw rhoi dealltwriaeth drylwyr i fyfyrwyr o ffotograffiaeth a sgiliau celf a dylunio atodol.

Yn ystod y cwrs dwy flynedd hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o dechnegau ffotograffiaeth, ac yn datblygu sgiliau ffotograffiaeth er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r broses greadigol. Byddwch yn canolbwyntio ar eich maes arbenigol o ffotograffiaeth gan gynnwys pob agwedd ar ddylunio digidol, cynllunio arddangosfa a hyrwyddo.

Bydd briffiau cyffrous yn eich herio i archwilio’ch terfynau creadigol a datblygu’ch gallu i fynegi a chyfleu syniadau trwy gyfrwng ffotograffiaeth.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan athrawon profiadol o’r diwydiant a bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o adnoddau ffotograffig megis offer, stiwdios ac ystafelloedd tywyll.

Bydd y cwrs hwn yn gorffen gyda’ch prosiect mawr terfynol y gellir ei arddangos yn ein sioe diwedd blwyddyn. Trwy gydol eich amser gyda ni rydym yn eich annog i adeiladu portffolio Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth) y gallwch ei ddefnyddio i wneud cais am astudiaethau pellach neu swydd yn sector y celfyddydau.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Datblygu ymwybyddiaeth feirniadol a chyd-destunol o wahanol safbwyntiau a dulliau mewn ffotograffiaeth neu bynciau astudio cysylltiedig neu waith  
  • Nodi nodweddion systemau camera ac ennill y sgiliau i gynhyrchu ffotograffau ar gyfer amrywiaeth o bwrpasau
  • Dysgu sut i ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso prosiect ffotograffig yn effeithiol  
  • Adolygu’n feirniadol effeithiolrwydd a phriodoldeb dulliau, gweithredoedd a chanlyniadau ffotograffig
  • Deall ffynonellau goleuo ar gyfer ffotograffiaeth, gan gynnwys technegau mesur golau, a defnyddio gosodiadau goleuo amrywiol yn hyderus
  • Nodi nodweddion delweddu digidol, printio a phrosesu ffilm
  • Prosesu a chynhyrchu ffilm ffotograffig a phrintiau gyda hyfedredd
  • Deall arferion ffotograffig a dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch
  • Gallu deall, addasu a defnyddio dulliau a sgiliau priodol ac ymarferol yn ddiogel ar gyfer cynhyrchu creadigol
  • Datrys problemau cymhleth trwy gymhwyso ffotograffiaeth neu drwy ddealltwriaeth ymarferol, ddamcaniaethol a thechnegol gysylltiedig
  • Defnyddio sgiliau gwerthuso a myfyrio er mwyn cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad dysgu a’ch penderfyniadau eich hun
  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli amser, cynllunio, ymchwil a’r camau gweithredu angenrheidiol er mwyn manteisio ar gyfleoedd dilyniant amrywiol mewn ffotograffiaeth
  • Cyflwyno’ch syniadau a’ch gwaith celf yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol gan feistroli’r grefft o gyfathrebu yn iaith weledol ffotograffiaeth
  • Prosiect mawr terfynol.

Gwybodaeth allweddol

O leiaf bum gradd A-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Celf a Dylunio

Derbynnir cymwysterau cyfwerth, gan gynnwys Teilyngdod Lefel 2 Celf a Dylunio

Yn amodol ar gyfweliad a phortffolio o waith. 

Profiad dysgu deinamig ac ymarferol sy’n gosod ffotograffiaeth ar flaen y gad o ran archwilio creadigol. Mae ein tîm o staff arbenigol yn addysgu unedau fel aseiniadau â thema drwy gydol y flwyddyn, wedi’u cynllunio i herio ac ysbrydoli.

Cynhelir arddangosiadau ymarferol, ynghyd â thrafodaethau, gwaith grŵp, gwaith unigol, cyflwyniadau ac arddangosfeydd.

Asesir y gwaith yn erbyn ystod o feini prawf sy’n edrych ar amrywiaeth ymchwil, datblygu syniadau, archwilio cyfryngau a thechnegau, dadansoddi a gwerthuso canlyniadau.

Byddwch yn derbyn asesiad parhaus ac adborth adeiladol trwy gydol y cwrs, gyda gwerthusiadau llafar ac ysgrifenedig gan ein tîm o arbenigwyr ffotograffiaeth.

Archwiliwch bosibiliadau amrywiol ffotograffiaeth gan ddefnyddio ein hystod eang o offer o ansawdd uchel, gan gynnwys systemau camera uwch, offer goleuo, ac offer delweddu digidol.

Bydd myfyrwyr yn treulio tua 18 awr yr wythnos ar y cwrs. 

Mae myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i nifer o gyrsiau addysg uwch fel gradd, diploma sylfaen neu HND.

Mae myfyrwyr llwyddiannus wedi mynd ymlaen i gyrsiau gradd amrywiol ledled y DU, gan ennill nifer o gystadlaethau celf a dylunio (ffotograffiaeth) nodedig hefyd.

Bydd gwibdeithiau amrywiol i orielau, amgueddfeydd a digwyddiadau yn cael eu cynnal trwy gydol y cwrs. Lle bo modd, bydd y Coleg yn cymorthdalu cost y gwibdeithiau hyn, ond bydd gofyn i fyfyrwyr gyfrannu hefyd.

Offer: Mae ffioedd stiwdio (£75 y flwyddyn) yn cynnwys y canlynol:

  • Adnoddau arbenigol o fewn y llwybr ffotograffiaeth, cynnal a chadw offer arbenigol ac mae’n cyfrannu at adnoddau hanfodol
  • Disgwylir i fyfyrwyr brynu eu llyfrau braslunio eu hunain ac unrhyw offer ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer eu hastudiaethau
  • Costau argraffu: Gall myfyrwyr brynu credydau argraffu ar gyfer cyfrifiaduron personol a MACs yn ôl yr angen yn ystod y flwyddyn.

Explore in VR