Skip to main content

Paratoi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2 - Tystysgrif Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 2
BTEC Certificate
Tycoch, Gorseinon
Un flwyddyn
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Bydd y cwrs blwyddyn hwn yn eich ysbrydoli i wella sgiliau cysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus a sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol trwy raglen amrywiol a heriol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:

  • Sgiliau gwasanaethau cyhoeddus
  • Cyflogaeth
  • Iechyd a ffitrwydd
  • Gweithgareddau a gwaith tîm
  • Sgiliau ymgyrch a llywio tir
  • Chwaraeon a hamdden.

Gwybodaeth allweddol

Pum gradd D neu uwch ar lefel TGAU. O leiaf radd D/E mewn Saesneg a mathemateg.

Bydd y rhan fwyaf o’r unedau astudio’n cael eu hasesu’n fewnol gan eich darlithwyr trwy aseiniadau.

Mae enghreifftiau o dystiolaeth nodweddiadol y bydd gofyn i chi eu cynhyrchu efallai yn cynnwys adroddiadau, cyflwyniadau, posteri, taflenni a dangos sgiliau ymarferol mewn unedau ffitrwydd ac awyr agored neu mewn sefyllfaoedd chwarae rôl.

Asesir dwy uned yn allanol gan ddefnyddio profion. 

Gallwn addysgu rhannau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.

BTEC Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ond mae’n bosibl ystyried cyrsiau Lefel 3 eraill. Neu, gall myfyrwyr wneud cais i ymuno â gwasanaeth cyhoeddus, ond bydd rhaid iddynt fodloni’r gofynion mynediad a phasio’r broses ddethol.

Efallai y bydd costau os bydd gwibdeithiau’n cael eu trefnu.