Skip to main content

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 - Diploma Estynedig Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Gorseinon
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd â diddordeb cryf mewn gwyddor chwaraeon ac a hoffai ddatblygu gallu athletwr trwy astudiaethau dadansoddi ac ymchwil.

Mae meysydd astudio yn gallu cynnwys:

  • Anatomeg
  • Ffisioleg ymarfer corff
  • Seicoleg chwaraeon
  • Biomecaneg
  • Maeth chwaraeon
  • Ymchwil chwaraeon
  • Anafiadau chwaraeon

Gellir addysgu elfennau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwybodaeth allweddol

Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Ddwbl. Byddwn yn ystyried gradd Rhagoriaeth mewn pynciau cyfwerth.

Asesir y cwrs trwy brosiectau parhaus ac aseiniadau ymarferol. Yn y flwyddyn olaf bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mawr sy’n cynnwys gweithgareddau ymchwil.

Bydd pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn rhaglenni profiad gwaith.

Os dewiswch aros yn y Coleg, gallwch symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu’r sylfaen ar gyfer astudio ar lefel gradd er mwyn datblygu gyrfa mewn galwedigaethau cysylltiedig â gwyddor chwaraeon megis seicolegydd, biomecanydd, maethegydd, cinesiolegydd, therapi chwaraeon a ffisiotherapi. Byddai’n briodol i fyfyrwyr a hoffai addysgu addysg gorfforol.

Archwiliwch rai o’r gyrfaoedd y gallech eu dilyn ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, a’u cyflog cysylltiedig.

Mae rhagor o gyfleoedd i’w gweld ar wefan Gyrfaoedd mewn Chwaraeon.

 

Bydd rhaid i fyfyrwyr ar y cwrs hwn dalu am wiriad DBS sy’n costio £40.

Rhaid i fyfyrwyr brynu crys-T, crys polo a hwdi ar gyfer y cwrs sy’n costio £70.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i brynu tracwisg coleg a chit cysylltiedig â chwaraeon trwy’r timau chwaraeon a ddewiswyd.

Mae’n bosibl y bydd costau bach ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol lleol.