Skip to main content

Llongyfarchiadau i'n graddedigion AU 2015!

Aeth myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i seremoni graddio arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y ddinas i ddathlu ennill eu cymwysterau addysg uwch a phroffesiynol.

Roedd bron 100 o fyfyrwyr wedi gwisgo’u capiau a’u gynau i gasglu tystysgrifau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys AAT Cyfrifeg, Peirianneg, Trin Gwallt a Harddwch, TG, Gofal Plant, Dysgu a Datblygu, Busnes, Chwaraeon ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau addysg uwch – gan gynnwys HNC/HND, Graddau Sylfaen a chymwysterau hyfforddi athrawon fel TAR – ac mae llawer o’r rhain wedi’u dilysu gan y prif sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Mae cymwysterau proffesiynol hefyd yn cael eu cynnig trwy is-adran Hyfforddiant GCS y coleg, sy’n gweithio’n agos gyda diwydiant i ddarparu pecynnau hyfforddi pwrpasol i gyflogeion.

“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar addysg, yn enwedig addysg bellach ac uwch sy’n addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi economi gref,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Dwi wrth fy modd bod Coleg Gŵyr Abertawe, drwy weithio gyda’n partneriaid AU ac eraill, yn gallu cefnogi’r agenda hwn ac rydyn ni’n parhau i ddatblygu ein darpariaeth AU drwy waith partneriaeth cadarn.”

“Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr sydd wedi ennill eu cymwysterau. Maen nhw’n glod iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, eu cyflogwyr a’r coleg ac rydyn ni’n dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol.”

Yn 2014/15, roedd dros 200 o fyfyrwyr wedi cwblhau cymhwyster addysg uwch neu broffesiynol gyda Choleg Gŵyr Abertawe, mewn 27 maes pwnc gwahanol.