Skip to main content

Sesiynau blasu Cymraeg yn y brifysgol

Yn dilyn cais llwyddiannus Coleg Gŵyr Abertawe am arian prosiect gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, trefnwyd diwrnod blasu i'r myfyrwyr hynny a hoffai ddilyn gyrfa ym maes nyrsio neu fydwreigiaeth.

"Y nod oedd annog myfyrwyr Cymraeg eu hiaith i astudio eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, a gwneud cais am yr ysgoloriaethau cymhelliant sydd ar gael ar gyfer y cyrsiau hynny,” esboniodd yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Anna Davies. "Roeddem ni wedi cydweithio ag ysgolion Cymraeg yn y de-orllewin er mwyn sicrhau bod y neges yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl a bod pob darpar fyfyriwr yn cael cyfle i fynychu’r diwrnod."

Cafodd y myfyrwyr ddarlithoedd byr mewn nyrsio a bydwreigiaeth gan y darlithwyr cyfrwng Cymraeg Amanda Jones a Rachel Williams a oedd yn cynnwys cael cyngor ar eu ffurflenni cais, y broses gyfweld ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ychwanegodd Lois Griffiths, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe, “Cawson nhw sesiynau ymarferol yn yr ystafelloedd clinigol a oedd yn amrywio o frwsio dannedd cleifion, helpu i eni plentyn, gosod gwely, a chymryd pwysau gwaed. Roedd y rhain i gyd yn brofiadau hollol newydd i’r myfyrwyr. Cafwyd sesiwn fuddiol ar gyfleusterau dysgu'r brifysgol gan Elen Wyn Davies, ac arweiniwyd trafodaeth ar yr hyn sy’n gwneud nyrs dda gan Beryl Mansel, darlithydd iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg. Roedd hyn wedi hoelio sylw'r myfyrwyr ar yr hyn y mae angen iddynt allu ei ddangos yn eu ffurflenni cais ac mewn cyfweliad.”

"Yn dilyn llwyddiant y diwrnod, y gobaith yw olrhain nifer y myfyrwyr sy'n mynd ymlaen i astudio'r cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n derbyn ysgoloriaeth i wneud hynny," dywedodd Anna. "Y gobaith yw gallu trefnu digwyddiad tebyg bob blwyddyn."