Skip to main content
Congratulations to our Oxbridge students 2017

Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr Rhydgrawnt 2017

Mae saith myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen eleni. Y myfyrwyr yw:

  • Kyle Lowes (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) - wedi cael cynnig lle yng Ngholeg Balliol, Rhydychen i astudio Archaeoleg Glasurol a Hanes yr Hen Fyd
  • Ffion Price (gynt o Ysgol Gyfun Cefn Hengoed) - wedi cael cynnig lle yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth
  • Nia Griffiths (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - wedi cael cynnig lle yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt i astudio Astudiaethau Eingl-Sacsonaidd, Nordig a Cheltaidd
  • Anna Cooper (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - wedi cael cynnig lle yng Ngholeg Homerton, Caergrawnt i astudio Cerddoriaeth
  • Megan Coslett (gynt o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) wedi cael cynnig lle agored yng Ngholeg Crist, Caergrawnt i astudio Addysg, Saesneg a Drama
  • Steven Edwards (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) - wedi cael cynnig lle yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt i astudio Mathemateg
  • Jonathan Phillips (gynt o Ysgol Gyfun Tre-gŵyr) - wedi cael cynnig lle yng Ngholeg St Catharine, Caergrawnt i astudio Mathemateg.

Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad, ac ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r prif sefydliad o fewn Consortiwm AU+ Abertawe, lle rydym yn gweithio gyda’r saith ysgol wladol chweched dosbarth yn yr ardal.