Skip to main content
Y Coleg yn dathlu Wythnos Amrywiaeth 2017

Y Coleg yn dathlu Wythnos Amrywiaeth 2017

Mae staff a myfyrwyr ar draws Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu Wythnos Amrywiaeth gyda'r deuddegfed Ffair Amrywiaeth flynyddol a chyfres o weithdai codi ymwybyddiaeth.

Ymhlith yr adloniant eleni oedd perfformiad drymio Affricanaidd gan Gbubemi Amas, arddangosiad o grefft ymladd Capoeira Brazilian, dawns y glocsen Gymreig gyda Menter Abertawe ac - yn ôl eto eleni - dawns stryd hynod boblogaidd gan Arnold Matsena. Cafwyd cerddoriaeth fyw hefyd gyda pherfformiadau gan fyfyrwyr talentog Llwyn y Bryn a Gorseinon.

"Mae'r Wythnos Amrywiaeth - ac yn enwedig y Ffair Amrywiaeth - yn gyfle i bawb ddathlu cyfoeth diwylliannol ein cymunedau", meddai'r Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Jane John.  "Gyda chymorth a chefnogaeth ein sefydliadau partner, gallwn gael ychydig bach o hwyl yn ogystal â hybu ymwybyddiaeth o'r materion pwysig."

Fel rhan o'r Wythnos Amrywiaeth, roedd myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithdai Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.  Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yw elusen addysgol gwrth-hiliaeth y DU.  Wedi'i sefydlu yn 1996, mae'n cynnal 'pythefnos o weithgareddau' yng Nghymru bob mis Hydref, gyda gweithdai sy'n ceisio addysgu a grymuso pobl ifanc.

DIWEDD

Dyma rai o'r myfyrwyr fu'n perfformio a'r stondinwyr eleni.

Windshake (Oliver Thomas, Sam Thomas ac Ethan David)
Daniels Dallas
Dena Davies a Hannah Lockhart
Bethan Walters
Felicity Edwards
Ewan Williams
Let’s Name it Right Now (Aaron Morgan, Oliver Thomas, Flynn Forgeau, James Hamm, Caleb Kelso)
Ace (Jonas Liang, Faye Wu a Vee Zhang)
The Furns
Rhys Carlson a Jacob Howells
Alasdair Gunneberg
Ban jazz y Coleg
Sgiliau Byw'n Annibynnol
ESOL
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gofal Plant
Plymwaith
Cerbydau Modur
Harddwch
Lletygarwch ac Arlwyo
Rhyngwladol
Ffrangeg
Saesneg
Cymraeg
Astudiaethau Crefyddol
Hanes
Prosiect Cymunedol Addysg Cenia
Cymdeithas Ffeministiaeth Coleg Gŵyr Abertawe
Cymdeithas LGBT Coleg Gŵyr Abertawe

Diolch i'n partneriaid cymunedol, gan gynnwys:

Gbubemi Amas
Menter Abertawe
Arnold Matsena 
Capoeira
Grŵp Dawns Sarita Sood
Cymdeithas Pobl Dsieinïaidd yng Nghymru
BAWSO
Abertawe Dinas Lloches
EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig)
Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
Y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd
Heddlu De Cymru