Skip to main content
Artistiaid talentog yn dangos eu gwaith

Artistiaid talentog yn dangos eu gwaith

Mae artistiaid, ffotograffwyr a dylunwyr talentog o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu diwedd y flwyddyn academaidd gyda chyfres o arddangosfeydd ar draws y ddinas.

Cynhaliwyd y digwyddiad Safon Uwch Celf a Dylunio  yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand Abertawe. Roedd yn dangos gwaith myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys dylunio tecstilau, cyfathrebu graffig, celfyddyd gain a ffotograffiaeth, sydd i gyd yn cael eu haddysgu ar gampws Gorseinon.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i longyfarch y myfyrwyr a enillodd wobrau yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar. Y myfyrwyr oedd:

2D Creadigol dan 19 -  1af Emily Arnold | 2il Amelia Hill
Print Lliw Ffotograffiaeth dan 19 – 3ydd Natasha Butchers
Argraffu dan 19 – 3ydd Max Arnold
Tecstilau 3D Creadigol dan 19 - 1af Dilwen Pitt
Ffasiwn dan 19 – 1af Ella Waters
Celf dan 19 – 2il Max Arnold
Dylunio a Thechnoleg dan 19 – 1af Luke Macbride (Roedd Luke hefyd wedi ennill Medal Arbennig Celf, Dylunio a Thechnoleg a roddir i’r rhai dan 19 oed am y darn gorau o waith allan o’r holl gystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg yn yr Eisteddfod.)

Mae myfyrwyr celf galwedigaethol y Coleg o gampws Llwyn y Bryn hefyd wedi arddangos eu darnau terfynol mewn lleoliadau ar draws Abertawe.

Yn gyntaf oedd y myfyrwyr Diploma Sylfaen Celf a Dylunio, y mae 80% ohonynt yn symud ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch ar ôl gadael y coleg. Roedd eu harddangosfa nhw wedi rhoi sylw i faterion amserol megis cydraddoldeb, hunaniaeth a’r amgylchedd, ac yn bresennol ar y noson agored oedd Tonia Antoniazzi, AS Llafur Gŵyr.

Yn rhywle arall, roedd y myfyrwyr Lefel 3 Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth wedi cynnal eu harddangosfa nhw yn yr atriwm newydd ar gampws Tycoch. Yna, yn ôl yn Theatr y Grand cynhaliwyd yr arddangosfa Rhagoriaeth mewn Celf (a ddarparwyd mewn partneriaeth â Choleg Celf Abertawe) a’r arddangosfa Rhwydwaith Celf Ysgolion sy’n cynnwys gwaith disgyblion o 19 o ysgolion uwchradd a chweched dosbarthiadau ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae nifer o’r myfyrwyr hyn o Goleg Gŵyr Abertawe nawr yn mynd i’r brifysgolion gorau ar draws y DU gan gynnwys RADA, Prifysgol Brighton, Prifysgol Gorllewin Lloegr Bryste a Phrifysgol Sba Caerfaddon.

DIWEDD

Lluniau: Adrian White / Peter Price Media