Skip to main content
Myfyrwyr arlwyo yn mwynhau arddangosiad sgiliau cegin

Myfyrwyr arlwyo yn mwynhau arddangosiad sgiliau cegin

Trefnwyd arddangosiad byw ar gyfer myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel rhan o’u rhaglen sefydlu.

Roedd y cyn-fyfyrwyr Ben Adams a David Davies wedi dychwelyd i geginau Tycoch i baratoi terîn cyw iâr a tsioriso, suprême cyw iâr wedi’i ffrio gyda thatws dauphinoise, stwnsh pwmpen cnau menyn a panache o lysiau, wedi’u dilyn gan mousse chartreuse siocled.

“Mae’r ddau fyfyriwr wedi symud ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant  – Ben fel pen-cogydd gweithredol dros dro a David fel sous-chef,” dywedodd y darlithydd Stephen Williams. “Roedd yn brofiad gwych i’n myfyrwyr newydd gwrdd â nhw i ddysgu rhagor am y mathau o lwybrau gyrfa y gallen nhw eu dilyn eu hunain un diwrnod.”