Skip to main content
Y Coleg yn dathlu Ffair Amrywiaeth 2018

Y Coleg yn dathlu Ffair Amrywiaeth 2018

Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau Ffair Amrywiaeth fywiog a llwyddiannus arall.

Ymhlith yr adloniant ar gael eleni roedd drymio Affricnanaidd, celfyddydau milwrol o Frasil, dawnsio Indiaidd Bollywood a dawnsio stryd. Cafodd cerddoriaeth fyw ei darparu hefyd gan fyfyrwyr o Gampysau Llwyn y Bryn a Gorseinon.

Roedd y partneriaid cymuned oedd yn mynychu yn cynnwys EYST, BAWSO, Cymdeithas Tsieineaidd Cymru a’r Ganolfan Gymuned Affricananidd.

“Mae ein Ffair Amrywiaeth flynyddol yn gyfle i bawb ddathlu cyfoeth diwylliannol ein cymunedau,” dywed Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y coleg, Jane John. “Gyda help a chefnogaeth ein sefydliadau partner – sy’n chwarae rhan mor hollbwysig yn llwyddiant y digwyddiad – gallwn gael llawer o hwyl tra, ar yr un pryd, yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion gwirioneddol bwysig a allai effeithio ar bawb.”

Mewn wythnosau diweddar, mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi cefnogi’r ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth gyda myfyrwyr o Osod Trydanol, Chwaraeon, ILS a Pheirianneg gan gymryd rhan mewn gweithdai wedi eu cynllunio i fynd i’r afael â materion fel hiliaeth, Islamoffobia a homoffobia.

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yw elusen addysgol gwrth-hiliaeth y DU. Wedi ei sefydlu yn 1996, mae’n cynnal ‘pythefnos o weithredu’ yng Nghymru pob Hydref, gyda gweithdai sy’n anelu at addysgu a grymuso pobl ifanc.

DIWEDD

Ymhlith ein perfformwyr eleni roedd:

Caleb Kelso
Maia Gough
The Furns
Jacob Howells
Ioan Roberts
Cara Hogarth
Windshake
Courtney Yeo
Aneurin Thomas
Gbubemi Amas
Cymdeithas Tsieineaidd Cymru
Arnold Matsena
Sefydliad Diwylliannol ILE
Grŵp Dawns Sarita Sood
Sophie Mossop
Myfyrwyr Celfyddydau Perfformio Lefel 2
Penny Cook a Hollie Jones
Sam Marshall
Myfyrwyr Diploma Cerddoriaeth o Lwyn y Bryn
Cycles of the Mood – Myfyrwyr Technoleg Cerddoriaeth o Gorseinon (Flynn Alexis, Frazer Forgeau, Evan Richards a Leon Williams)
Misfits – Myfyrwyr Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth o Gorseinon (Isabella Viggers, Rhiannon Taylor-Searle, Sarah Kate Lewis-Meredith a Mai Rees)
Cara Hogarth, Abbie Lewis a Caitlin Richards
Eva Coffey, Olivia Morgan, Ebony Creed, Lorna Wright a Kailam Evans
Ellie Stallard a Bethany Wisdom
Cymdeithas y Tsieineaid yng Nghymru
Dawnsio gwerin Cymreig gyda Tudur Phillips