Skip to main content

Cyflwyniad i Weldio Metel â Nwy Anadweithiol (MIG/MAG)

Rhan-amser
Lefel 1
EAL
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r uned yn bwriadu rhoi cyflwyniad eang i ddysgwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weldio metel â nwy anadweithiol (MIG/MAG) yn y safleoedd gwastad a llorweddol/fertigol. Bydd dysgwyr yn cynhyrchu weldiau ac asesu yn weledol a ydynt yn addas at y diben yn erbyn gofynion y weithdrefn weldio (WPS) a ddarperir yn asesiad mewnol yr uned. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu’r wybodaeth sylfaenol sy’n berthnasol i weldio metel â nwy anadweithiol.

Diweddarwyd Rhagfyr 2019

Gwybodaeth allweddol

Byddai rhywfaint o brofiad peirianneg/weldio yn fanteisiol ond nid yw’n orfodol.

Bydd tystiolaeth o gyflawniad dysgwyr yn cael eu rhoi yn eu portffolio. Bydd y prif ddarnau o dystiolaeth ar gyfer eu portffolio’n cynnwys: • asesiad gwybodaeth • asesiad ymarferol

Mae prinder peirianwyr yn y sector ac felly gall y cwrs hwn arwain at gyflwyniad i yrfa yn y sector weldio. Bydd yn bosibl dilyn cymhwyster Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon hefyd.

Bydd rhaid i fyfyrwyr ddarparu eu hesgidiau blaen dur eu hunain ac oferôls gwrth-dân.