Skip to main content

Safon Uwch Sylfaen

Amser-llawn
Lefel 2
A Level
Gorseinon
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Nod y cwrs hwn yw rhoi sylfaen academaidd gadarn i fyfyrwyr a rhoi’r sgiliau iddynt lwyddo yn Safon Uwch. Trwy gwricwlwm cynhwysfawr, bydd myfyrwyr yn anelu at wella eu graddau TGAU er mwyn symud ymlaen i’r cyrsiau Safon Uwch o’u dewis, wrth ddatblygu sgiliau astudio gwerthfawr a fydd yn gwella eu perfformiad yn Safon Uwch.

Mae amcanion y cwrs yn cynnwys gwella gwybodaeth bynciol a graddau, meithrin dysgu annibynnol, a magu hyder mewn gweithgareddau academaidd. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan fyfyrwyr sylfaen gadarn yn y pynciau craidd, yn barod ar gyfer dilyn y pynciau Safon Uwch o’u dewis. 

Gwybodaeth allweddol

Dylai ymgeiswyr y cwrs Safon Uwch Sylfaen fod wedi cwblhau eu haddysg uwchradd a meddu ar o leiaf bum gradd C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Mae brwdfrydedd gwirioneddol dros ddysgu ac ymrwymiad i ragoriaeth academaidd yn rhinweddau hanfodol. 

Addysgir y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd rhyngweithiol, seminarau, sesiynau ymarferol, ac astudiaethau annibynnol. Caiff asesiadau rheolaidd, gan gynnwys aseiniadau, profion, arholiadau a phrosiectau, eu defnyddio i werthuso cynnydd myfyrwyr. Bydd meini prawf graddio yn seiliedig ar berfformiad academaidd, gyda chyfranogiad yn y dosbarth a chyflwyno gwaith yn hanfodol i sicrhau llwyddiant myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn cael adborth adeiladol i gefnogu eu datblygiad a nodi meysydd i’w gwella. Mae’r cwrs yn anelu at greu amgylchedd dysgu cefnogol a diddorol.  

Pynciau sy’n cael eu hastudio: 

TGAU Saesneg Iaith 

TGAU Mathemateg 

TGAU Astudiaethau Crefyddol 

TGAU Y Cyfryngau 

TGAU Daearyddiaeth 

TGAU Ffotograffiaeth (ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd eisoes â gradd B mewn Saesneg Iaith neu Fathemateg)

Gall cwblhau’r cwrs Safon Uwch Sylfaen yn llwyddiannus arwain at amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant. Bydd myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda i ddilyn cyrsiau Safon Uwch mewn disgyblaethau amrywiol, gan gynnwys y Gwyddorau, y Dyniaethau, a’r Celfyddydau.
 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau Safon Uwch, gan roi modd i fyfyrwyr deilwra eu hastudiaethau i’w diddordebau a’u dyheadau gyrfa. Mae llwybrau Addysg Bellach hefyd yn cynnwys cyrsiau Galwedigaethol Lefel 3 a phrentisiaethau. Bydd y sylfaen gadarn a gaiff myfyrwyr yn ystod y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol iddynt ar gyfer llwyddiant yn y llwybrau gyrfa o’u dewis.