Skip to main content
Tîm pêl-droed y Coleg yn cadw’r Cwpan

Tîm pêl-droed y Coleg yn cadw’r Cwpan

Mae carfan Pêl-droed Premier Coleg Gŵyr Abertawe wedi cadw Cwpan Colegau Cymru, ar ôl curo Coleg Caerdydd a’r Fro 3-1 yn y rownd derfynol.

Dros y pedwar tymor diwethaf, mae llwyddiant y tîm wedi arwain at ennill Cwpan Colegau Cymru a Chwpan Ysgolion Cymru, yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Prydain a Chwpan Cymru.

“Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r holl chwaraewyr dan sylw ac i’r staff addysgu sydd wedi gweithio mor galed i hyfforddi a mentora’r tîm drwy gydol y tymor,” dywedodd y darlithydd Marc O’Kelly. “Roedd y bechgyn wedi gweithio mor dda gyda’i gilydd fel tîm i faeddu cystadleuwyr ardderchog ar hyd y ffordd, gan gynnwys Coleg y Cymoedd yn y rowndiau cynderfynol ac, wrth gwrs, Coleg Caerdydd a’r Fro yn y rownd derfynol.”

Rhaid rhoi sylw arbennig i’r saethwr Gavin Jones, a sgoriodd tair gôl yn y rownd derfynol ac a enillodd deitl ‘seren y gêm’, a’r Capten Iwan McNab, a gododd y tlws cyn mynd i UDA, lle mae wedi cael cynnig ysgoloriaeth bêl-droed lawn ym Mhrifysgol Ohio.