Skip to main content
Croesawu myfyrwyr newydd i’r Coleg

Croesawu myfyrwyr newydd i’r Coleg

Cafodd myfyrwyr newydd gyfle i ddysgu rhagor am fywyd campws pan ddaethon nhw i Ffair y Glas Coleg Gŵyr Abertawe.

“Mae Ffeiriau’r Glas yn gyfle gwych i groesawu myfyrwyr newydd i’r Coleg,” dywedodd Rheolwr Profiad a Lles y Dysgwr, Tom Snelgrove. “Gallan nhw ddod i adnabod ei gilydd, cael newyddion ddefnyddiol a rhoi cynnig ar y gweithgareddau niferus am ddim sydd ar gael. Yn ogystal â mwynhau cerddoriaeth fyw a hud agos, cawson nhw gyfle i ymuno â chlybiau coleg, academïau chwaraeon, digwyddiadau menter, grwpiau iaith Gymraeg a Phrosiect Addysg Cymuned Cenia.”

Ymysg y partneriaid cymunedol oedd yn bresennol eleni roedd Heddlu De Cymru, Gyrfa Cymru, Achub Milgwn Cymru, Gofalwyr Ifanc Abertawe, Barod, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Safer Driving Swansea a’r Gweilch.

Yn y digwyddiad eleni, lansiwyd pedair menter draws-golegol newydd sbon:

  • CGAEgnïol – amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol sydd â’r nod o hyrwyddo ffitrwydd, iechyd a lles i bob gallu
  • Urddas yn ystod Mislif– bydd pob myfyrwraig sy’n bresennol yn cael bag urddas am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru
  • Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe – caiff myfyrwyr gyfle i gwrdd â’u llywydd newydd Laimis Lisauskas
  • Cynlluniau teyrngarwch – gall myfyrwyr gael stampio eu cardiau pan fyddant yn prynu coffi Costa neu pan fyddant yn cymryd rhan mewn digwyddiad CGAEgnïol a chyfnewid y rhain am fyrbrydau iach.

    “Rydyn ni’n falch iawn o gynnig y cymhellion hyn i’n myfyrwyr a’u helpu i wneud dewisiadau iach,” ychwanegodd Tom. “Mae Coleg yn golygu llawer mwy na’r amser a dreulir yn yr ystafell ddosbarth a gobeithio y bydd ein hymgyrch CGAEgnïol newydd a’n cefnogaeth o Urddas yn ystod Mislif yn cael effaith gadarnhaol ar ein dysgwyr. Rydyn ni hefyd yn falch o groesawu Laimis fel ein llywydd undeb y myfyrwyr cyntaf – ni yw’r unig coleg AB i gael unigolyn amser llawn wedi’i secondio i’r rôl ac rwy’n siŵr y bydd yn gaffaeliad gwych o ran gwella profiad cyffredinol y myfyrwyr.”