Skip to main content
Wythnos Enfys y Coleg yn dathlu cynwysoldeb unigolion LGBTQ+

Wythnos Enfys y Coleg yn dathlu cynwysoldeb unigolion LGBTQ+

Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi lansio eu Hwythnos Enfys gyntaf erioed gyda’r dyfarnwr rhyngwladol rygbi’r undeb o Gymru Nigel Owens, MBE.

Bwriad Wythnos Enfys CGA yw codi ymwybyddiaeth o faterion LGBTQ+ a dathlu cynwysoldeb ac amgylchedd diogel a chefnogol y Coleg.

Dechreuodd yr wythnos drwy ymrwymo i raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ac anerchiad a sesiwn holi ac ateb gan Nigel Owens, MBE. Roedd Nigel wedi siarad am ei frwydrau â’i rywioldeb a’i iechyd meddwl ei hun, gan dynnu sylw at bwysigrwydd bod yn driw i chi’ch hun.

Drwy gydol yr wythnos, roedd digwyddiadau eraill yn cynnwys ffair enfys – yng nghwmni Good Vibes, Eyst, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Barod a BAWSO – ras enfys a sesiynau lliwio teis, peintio ewinedd a chwisiau.

Roedd y Coleg hefyd wedi croesawu cynrychiolwyr Stonewall i ddarparu hyfforddiant staff yn ogystal â chlywed anerchiadau gan y ceisiwr lloches Abderrahim El Habachi a model rôl ysgol Stonewall.

“Rydyn ni’n hynod falch o lansio ein menter Wythnos Enfys,” dywedodd Cadeirydd Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Coleg a Chyfarwyddwr AD, Sarah King. “Mae mor bwysig bod staff a myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi, mae’n wych gweld y Coleg cyfan yn cynllunio ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ardderchog.”

Lluniau: Adrian White Photography