Skip to main content
Coleg yn croesawu gwestai o Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost

Coleg yn croesawu gwestai o Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost

Yn ddiweddar clywodd grŵp o ddysgwyr Hanes U2 dystiolaeth gan oroeswr yr Holocost, Eva Clarke BEM, fel rhan o ymweliad a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost (HET).

Fe wnaethon nhw hefyd gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb i’w galluogi i ddeall natur yr Holocost yn well ac archwilio ei wersi yn fwy manwl. Roedd yr ymweliad yn rhan o Raglen Allgymorth helaeth HET trwy gydol y flwyddyn, sydd ar gael i ysgolion ledled y DU.

“Roedd yn fraint i ni groesawu Eva i’r Coleg a bydd ei thystiolaeth yn parhau i fod yn atgof pwerus o’r erchyllterau a brofodd cymaint,” meddai Andrea Davies, Arweinydd Cwricwlwm Hanes. “Rydym yn ddiolchgar i HET am gydlynu’r ymweliad a gobeithio, trwy glywed tystiolaeth Eva, y bydd yn annog ein myfyrwyr i ddysgu o wersi’r gorffennol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau eu hunain.”

“Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn addysgu ac yn ennyn diddordeb myfyrwyr ledled y DU, o bob cymuned, am yr Holocost a does dim ffordd well o wneud hynny na thrwy dystiolaeth uniongyrchol goroeswr,” ychwanegodd y Prif Weithredwr Karen Pollock MBE. “Mae stori Eva yn un o ddewrder aruthrol yn ystod amgylchiadau erchyll a thrwy glywed ei thystiolaeth, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddysgu i ble gall rhagfarn a hiliaeth arwain yn y pen draw. 

“Yn yr Ymddiriedolaeth, rydyn ni’n rhoi hanes yr Holocost i bobl ifanc, i sicrhau ein bod yn anrhydeddu cof y rhai a gollodd eu bywydau ac yn symud ymlaen â’r gwersi a ddysgwyd gan y rhai a oroesodd.”