Skip to main content
Myfyrwyr coleg yn ennill llu o fedalau

Myfyrwyr coleg yn ennill llu o fedalau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl cipio 20 medal yn y gyfres ddiweddar o ddigwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws amrywiaeth o sectorau.

Mae’r cystadlaethau yn rhoi cyfle i ddysgwyr galwediagethol arddangos eu sgiliau a chael cydnabyddiaeth amdanynt yn y sector o’u dewis a symud ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymorth a’i rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr, mae’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Enillwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2022 yw:

Aur
Bethanie Boniol – Dylunio Graffig
Dylan Phillips – Electroneg Ddiwydiannol
Evan Coombs – Technegydd Labordy

Arian
Teigan Macauley – Therapydd Harddwch (Dwylo a Wyneb)
Teagan Thomas – Colur y Cyfryngau Creadigol
David O’Neill – Electroneg Ddiwydiannol
Stanislav Shuvaev – Roboteg Ddiwydiannol
Steffan Weaver – Roboteg Ddiwydiannol
Hannah Morris – Cerddoriaeth Boblogaidd
Johan Davies - Cerddoriaeth Boblogaidd
Kacey-Leigh Milward - Cerddoriaeth Boblogaidd
Louis Morris - Cerddoriaeth Boblogaidd
Aaron Williams – Cerddoriaeth Boblogaidd
Dylan Diamond – Gwasanaethau Bwyty

Efydd
Erin McCormick - Therapydd Harddwch (Dwylo a Wyneb)
Olivia Lewis – Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn
Sami-Jo Samuel – Sgiliau Cynhwysol Gofal Plant
Chloe Davies – Sgiliau Cynhwysol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Joshua Barlow – Technegydd Labordy
Morgan Howell – Plymwaith a Gwresogi

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda pherfformiad ein holl ddysgwyr sydd wedi cystadlu eleni,” dywedodd Deon y Gyfadran a’r Cennad Sgiliau, Cath Williams. “Fe wnaeth bob un o’n cystadleuwyr arddangos ymroddiad ac ymrywmiad eithriadol wrth wneud eu ffordd drwy’r broses gystadlu. Mae ennill 20 medal – 3 medal Aur, 11 medal Arian a 6 medal Efydd – yn goron ar y cyfan!

“Fel Coleg, rydyn ni’n hynod falch o sgiliau ein dysgwyr galwedigaethol sydd yn dyst i’r profiadau dysgu ac addysgu ardderchog y mae ein timau addysgu yn eu darparu. Mae llwyddiant y cystadleuwyr ar draws holl feysydd y cwricwlwm yn arbennig o braf, ac yn dathlu ehangder ein darpariaeth yng  Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ein blwyddyn gyntaf fel Canolfan Sgiliau Rhagoriaeth y DU.”

Dyma rai o enillwyr 2022

Clywch beth oedd gan ein dysgwyr Adeiladu i'w ddweud am y cystadlaethau: