Skip to main content

Gwaith Coed Safle Lefel 3 - Prentisiaeth Available in Welsh

Prentisiaeth
Lefel 3
Llys Jiwbilî
Tair blynedd
Cyfrwng Cymraeg neu Saesneg
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu mewn Gwaith Coed Safle Lefel 3 yn darparu dull manwl o waith coed safle, ac yn ateb gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio ym maes adeiladu traddodiadol, newydd a chyn-1919 a thechnolegau newydd.

Bydd dysgwyr yn datblygu’r canlynol:

  • Y gallu i gynllunio prosiectau gwaith ar y safle yn effeithiol
  • Y gallu i adolygu a gwerthuso ansawdd y gwaith a gwblhawyd ar y safle yn effeithiol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r offer, y technegau, y defnyddiau a’r technolegau a ddefnyddir mewn gwaith coed safle a sut maen nhw’n newid ac wedi newid, dros amser
  • Sgiliau cyflogadwyedd a’u gallu i’w defnyddio mewn amgylchedd gwaith
  • Deall cynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i waith adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth alwedigaethol o waith coed safle
  • Perfformiad galwedigaethol mewn gwaith coed safle.

Nod y cwrs yw rhoi modd i ddysgwyr seiliedig ar waith i ddangos a gwella eu sgiliau galwedigaethol.

Gwybodaeth allweddol

  • Rhaid eich bod wedi’ch cyflogi fel prentis
  • Graddau A*-D ar lefel TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith. Gallwn drafod cymwysterau eraill.

Asesu:

Os yw’r dysgwr yn dilyn y cymhwyster Lefel 3 hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb gyflawni’r cymhwyster Lefel 2 Sylfaen mewn Adeiladu yn gyntaf:

  • Tri phrawf amlddewis ar-lein
  • Un prosiect wedi’i osod yn allanol, wedi’i farcio’n fewnol
  • Un drafodaeth dan arweiniad, wedi’i marcio’n fewnol
  • Un prosiect ymarferol wedi’i osod gan gyflogwr
  • Un drafodaeth broffesiynol.

Os yw’r dysgwr wedi cwblhau Lefel 2 Sylfaen mewn Adeiladu:

  • Dau brawf amlddewis ar-lein
  • Un prosiect ymarferol wedi’i osod gan gyflogwr
  • Un drafodaeth broffesiynol.

Cyflogaeth neu hunangyflogaeth.

Rhaid eich bod yn gyflogedig fel prentis i wneud cais am y cwrs hwn.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.