Rheolaeth Adeiladu - Tystysgrif Genedlaethol Uwch
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff dyfarnu: Pearson
Ydych chi’n gweithio ym maes adeiladu, seilwaith neu wasanaethau adeiladu ac yn barod i symud i rôl reoli? Neu ydych chi’n ystyried newid gyrfa i’r sector Adeiladu sy’n tyfu’n barhaus ac yn chwilio am gymhwyster sy’n cyd-fynd â’ch bywyd a’ch gwaith presennol?
Mae Rheolwyr Adeiladu yn cydlynu ac yn cyfarwyddo gweithgareddau safle, gan ddod â phenseiri, peirianwyr, rheolwyr masnachol, ac arbenigwyr safle ynghyd er mwyn gwireddu cysyniad adeiladu. Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau rheoli prosiect a sgiliau cyfathrebu â phobl, y gallu i reoli risg a datrys problemau yn greadigol.
Mae Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Rheoli Adeiladu yn gwrs ymarferol, rhan-amser (un diwrnod yr wythnos) gan Pearson a bydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn egwyddorion rheoli adeiladu, technoleg adeiladu, cymwysiadau digidol ar gyfer gwybodaeth adeiladu, rheoliadau iechyd a diogelwch, gofynion cyfreithiol a statudol, tendro a chaffael, ac egwyddorion ynni amgen.
Mae’r cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch yn cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd BEng Rheoli Adeiladu. Mae’n rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o rolau adeiladu ar safle ac mewn swyddfa. Gallwch hefyd ddewis ychwanegu at eich cymhwyster i ennill HND neu radd BEng neu MEng llawn.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bach, rhyngweithiol gan arbenigwyr diwydiant sy’n adeiladu eich dysgu o amgylch astudiaethau achos yn y byd go iawn. Byddwn yn gweithio gyda chi fel unigolyn i ddarparu’r cymorth sgiliau sydd ei angen arnoch, boed hynny yn hyder mewn mathemateg, sgiliau cyflwyno neu ysgrifennu ffurfiol. Mae cynnwys y rhaglen Rheoli Adeiladu yn cael ei lywio gan ein Panel Diwydiannol yr Amgylchedd Adeiledig gyda chynrychiolwyr o Andrew Scott, Tai Tarian a chyflogwyr lleol a chenedlaethol eraill. Rydych chi’n gwybod eich bod yn dysgu dulliau cyfoes sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Pa Dystysgrif Genedlaethol Uwch (TGU) ddylwn i ei hastudio?
Mae dau lwybr ar gael ar gyfer ein Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Amgylchedd Adeiledig.
Dewiswch yr un sy'n gweithio i chi:
- Rheolaeth Adeiladu - Tystysgrif Genedlaethol Uwch – Os ydych chi eisiau rhedeg prosiectau, bydd y cwrs yma yn dysgu sgiliau cynllunio i chi a byddwch yn darganfod sur i ddod â gwahanol dimau at ei gilydd ar brosiectau adeiladu. Byddwch yn dysgu sut i gyflawni prosiect ar amser (ar gyllideb) a sut i reoli risg.
- Peirianneg Sifil - Tystysgrif Genedlaethol Uwch – Os ydych chi'n mwynhau cymhwyso mathemateg a gwyddoniaeth i broblemau go iawn, mae’r cwrs hwn yn ffordd o adeiladu'r wybodaeth dechnegol i sydd ei angen arnoch weithio ar ffyrdd, pontydd, draenio ac adeiladau. Byddwch yn dysgu sut mae strwythurau yn ymddwyn ac yn cymhwyso egwyddorion dylunio ac offer digidol i greu prosiectau Peirianneg Sifil.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn rhan-amser ac fel prentisiaeth.
Gwybodaeth allweddol
Rydym yn cydnabod cymwysterau ffurfiol a/neu brofiad gwaith perthnasol fel llwybrau mynediad i’r cwrs HNC Peirianneg Sifil.
Mae gofynion mynediad nodweddiadol yn cynnwys cymhwyster Lefel 3 mewn maes perthnasol fel Adeiladu, Peirianneg, neu Fusnes.
Fel arall, byddwn yn croesawu eich cais os oes gennych brofiad gwaith perthnasol yn y diwydiant adeiladu a’ch bod yn gallu dangos hyfedredd mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar a sgiliau rhifedd da.
Darparwch gopïau o’ch tystysgrifau academaidd neu dystiolaeth o brofiad gwaith wrth wneud cais. Bydd ein tîm Derbyn yn adolygu pob cais yn ofalus i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs.
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai ymarferol, a phrosiectau grŵp. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos, ac ymweliadau â safleoedd i weld rheolaeth adeiladu ar waith. Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn mynd â chi drwy gynnwys y cwrs, gan ddarparu cymorth ac adborth cynhwysfawr.
Modiwlau:
- Yr amgylchedd adeiladu
- Cais digidol ar gyfer gwybodaeth adeiladu
- Technoleg adeiladu
- Goruchwylio safle a gweithrediadau
- Gofynion cyfreithiol a statudol mewn adeiladu
- Tendr a chaffael
- Egwyddorion ynni amgen
- Prosiect dylunio adeiladu.
Asesu:
Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac cyflwyniadau. Mae meini prawf graddio wedi’u hamlinellu’n glir yn llawlyfr y cwrs, gan roi modd i chi ddeall y disgwyliadau a’r meini prawf ar gyfer pob asesiad.
Mae cwblhau’r cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Rheoli Adeiladu yn agor y drws i ystod o gyfleoedd dilyniant ar gyfer eich gyrfa.
Mae llawer o rolau lefel mynediad a rolau dan hyfforddiant ym meysydd adeiladu yn derbyn yr HNC fel eu cymhwyster sylfaenol.
Mae’r cymhwyster HNC hwn yn rhoi modd i chi fanteisio ar rolau fel:
- Goruchwyliwr Safle Cynorthwyol (ystod cyflog £24,000 i £32,000)
- Rheolwr Prosiect Cynorthwyol (ystod cyflog £24,000 i £32,000).
Gallwch ddewis dilyn cymhwyster lefel uwch, fel Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), neu gwrs gradd mewn Rheoli Adeiladu neu faes cysylltiedig.
Wrth i chi ennill profiad ac arbenigedd neu drwy ddysgu pellach, gallwch symud ymlaen i swyddi fel Rheolwr Adeiladu, Rheolwr Prosiect, neu Reolwr Contractau (ystod cyflog £40,000-£60,000).
Costau’r cwrs:
£2,340* y flwyddyn ond mae hefyd ar gael trwy lwybr prentisiaeth.
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Hyd y cwrs:
Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd ar Gampws Tycoch.
Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi. Cynhelir y dosbarthiadau rhwng 9am a 5pm ar ddydd Mawrth.
Ffioedd ychwanegol:
- Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
- Prynu Esgidiau Diogelwch Safle.
*Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol.
