Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cryfhau ei gysylltiadau ag Affrica trwy gymryd rhan mewn prosiect AHG (addysg a hyfforddiant galwedigaethol) newydd gan VET Toolbox II.
Bwriad Vet Toolbox II - a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ac a reolir gan y Cyngor Prydeinig yn Ghana a Malawi - yw gwella cydweithrediad rhyngwladol i gefnogi addysg a hyfforddiant galwedigaethol a chynhwysol, lle bo galw amdano. Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach a gynigir ledled 11 o wledydd yn Affrica Is-Sahara trwy bedair asiantaeth ddatblygu Ewropeaidd: Enabel, Expertise France, GIZ a LuxDev.
Fel rhan o’r prosiect, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn gyfrifol am redeg partneriaeth sgiliau a mentora rhyngwladol, gan gefnogi partneriaid o Ghana a Malawi i wella eu ffyrdd o ddatblygu sgiliau, at ddibenion sicrhau effaith gynaliadwy.
Yn siarad o Malawi, dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygiad Busnes Coleg Gŵyr Abertawe: “Dyma gyfle newydd, cyffrous i’r Coleg ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect. Byddwn ni’n gyfrifol am gyflwyno ystod o sesiynau hyfforddi a mentora gan roi ffocws arbennig ar y sector amaethyddiaeth yn Ghana a Malawi - sector blaenllaw sy’n ffynnu.”
“I gryfhau’r bartneriaeth ymhellach, byddwn yn gweithio gyda Lantra, un o gyrff dyfarnu hyfforddiant diwydiannau tir mwyaf blaenllaw'r DU ac Iwerddon. Byddan nhw’n defnyddio eu harbenigedd i hwyluso nodau’r prosiectau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â’r hyn a ddysgwyd yn ôl i Gymru er budd y Coleg a rhanddeiliaid eraill.”
Yn ddelfrydol, bydd y partneriaethau mentora yn rhoi arweiniad i bartneriaid ar sut i wella deialog cyhoeddus-preifat, cynhyrchu cyllid cynaliadwy, gwella cynwysoldeb a monitro a gwerthuso rhaglenni. Bydd y bartneriaeth 12 mis yn amlygu arferion gorau a’r gwersi a ddysgwyd, gyda’r nod o lywio newid mewn systemau sgiliau y ddwy wlad y tu hwnt i’r sector amaethyddiaeth.
Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at arferion rhyngwladol arobryn Coleg Gŵyr Abertawe, sef maes a dderbyniom Wobr Beacon coldfawr yn 2023 oddi wrth Gymdeithas y Colegau (AoC).
Capsiynau lluniau:
Ein cyfarfod â Gweinyddiaeth Lafur Malawia, y Cyngor Prydeinig a dirprwyaeth o Botswana.
Grŵp o Sefydliadau Hyfforddiant Galwedigaethol rydym yn eu cefnogi drwy brosiect VET Toolbox II.
Yn olaf, y Gweithgor Technegol ar gyfer prosiect VET Toolbox II (sy'n cynnwys cyflogwyr a chwmnïau cydweithredol).