Skip to main content

Microgymhwyster mewn Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma ar gyfer Diwydiant

Rhan-amser
Lefel 5
Tycoch, Online
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

NEWYDD ar gyfer 2024

Corff llywodraethu: Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Logo Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau trawma a’i effeithiau ar yr unigolyn yn y tymor byr a’r tymor hir. Mae’n mynd ymlaen i ganolbwyntio ar sut i ddarparu cymorth gan ddefnyddio ymarfer sy’n ystyriol o drawma.

Amcanion y Cwrs:

Mae’r modiwl hwn wedi’i anelu at y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ac sydd am ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd â diddordeb byw yn y pwnc. Mae’n dechrau trwy gyflwyno ystyr trawma a sut mae trawma yn effeithio ar unigolion yn gymdeithasol, yn emosiynol, yn feddyliol ac yn fiolegol. Mae’n symud ymlaen wedyn i edrych ar ddulliau o gefnogi’r unigolion hynny mewn lleoliad addysgol. 

Mae’n cael ei addysgu gan Goleg Gŵyr Abertawe a’i achredu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’n fodiwl Lefel 4, gwerth 20 credyd, ac yn gymhwyster annibynnol. Mae’r cwrs yn cyfrif tuag at ofynion datblygiad proffesiynol parhaus, gan wella sgiliau a gwybodaeth broffesiynol yn unol â safonau addysgol cyfredol. 

Nod y modiwl hwn yw:  

  • Cyflwyno’r cysyniad o drawma, y prif gysyniadau damcaniaethol o drawma ac effaith trawma ar yr unigolyn
  • Cymhwyso egwyddorion ymarfer sy’n ystyriol o drawma i astudiaethau achos/eich ymarfer eich hun
  • Datblygu cyfathrebu beirniadol ac ysgrifenedig. 

Canlyniadau dysgu’r modiwl:

  1. Nodi amrywiaeth o drawmâu cysylltiedig ag arferion cyfredol yn y sector PCET    
  2. Gwerthuso effaith trawma ar yr unigolyn   
  3. Casglu amrywiaeth o gysyniadau damcaniaethol o drawma   
  4. Cymhwyso egwyddorion ymarfer sy’n ystyriol o drawma i astudiaeth achos/eich ymarfer eich hun a chydnabod anawsterau posibl neu safbwyntiau sy’n gwrthdaro   
  5. Cyfleu a threfnu gwybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau perthnasol.

Gwybodaeth allweddol

Mynediad safonol

Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol ond mae’n bosibl y bydd cymwysterau eraill nad ydynt yn y rhestr yn cael eu derbyn ar sail unigol:

  • Cynnig Safon Uwch arferol: DD   
  • Cynnig BTEC arferol: proffil BTEC perthnasol ar Lefel 3 Teilyngdod/Pasio neu Basio/Pasio/Pasio
  • Cynnig Bagloriaeth Cymru arferol: Graddau C a DE Safon Uwch
  • Cynnig Mynediad i AU arferol: Diploma Pasio gyda 60 credyd gan gynnwys 35 credyd Lefel 3, i gyd yn raddau pasio.

Mynediad Ansafonol

Bydd Arweinydd y Rhaglen ac aelodau eraill o dîm y rhaglen yn ystyried ymgeiswyr unigol nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau mynediad sylfaenol arferol, e.e. myfyrwyr hŷn â phrofiad o gyflogaeth berthnasol.

Rhan-amser:

  • 15 awr o ddysgu ar Gampws Tycoch 
  • 10 awr o ddarlithoedd ar-lein 
  • 25 awr o ddysgu ar-lein dan gyfarwyddyd.

Mae ymrwymiad ychwanegol i astudio a chwblhau gwaith aseiniad a bydd hwn yn cael ei gefnogi gan eich darlithydd.

Asesu:

  • Aseiniad 1: Cyflwyniad – 10 munud [35%]
  • Aseiniad 2: Asesiad ysgrifenedig – 2500 o eiriau [65%]

Mae’r cwrs hwn yn cael ei raddio mewn canrannau yn unol â safonau Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae microgymwysterau yn gymwysterau annibynnol i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant neu’r rhai a hoffai weithio yn y diwydiant. Mae microgymwysterau eraill yn y Coleg y gallwch wneud cais amdanynt, er enghraifft Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Ymarfer Cynhwysol ar gyfer Diwydiant.

Addysgir y cwrs hwn ar-lein ac wyneb yn wyneb er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio ar lefel uwch.

Costau’r cwrs: £660 ond mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio y tu allan i Abertawe.  

Ffôn: Addysg Uwch 01792 284098

E-bost: he@gcs.ac.uk

Costau Ychwanegol: Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn: Teithio i’r Coleg neu’r lleoliad ac yn ôl Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach USB)