Porth Staff / Myfyrwyr
Mae’r Porth yn rhoi mynediad hawdd i systemau’r Coleg ar y we.
Yma gall myfyrwyr a staff gyrchu adnoddau megis Moodle, e-CDU a Gwebost y Coleg.
Moodle
Drwy amgylchedd rhithwir y Coleg gall dysgwyr gyrchu adnoddau sy'n gysylltiedig â'u cwrs a llawer mwy, er mwyn i'r dysgu barhau y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Adnoddau yn cynnwys:
- Cwrs ar-lein penodol gyda gwybodaeth am gyrsiau ac adnoddau cwricwlwm
- Gwasanaethau’r Llyfrgell (gan gynnwys, chwilio'r llyfrgell a dolenni i e-Lyfrau, e-Gyfnodolion a phapurau newydd)
- Sgiliau Astudio
- Llawlyfr y Myfyriwr
- All About Me
- Dolenni defnyddiol.
Cyrchu Moodle
Mewngofnodwch i Moodle drwy ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’r cyfrinair a ddefnyddir i fewngofnodi i gyfrifiaduron personol yn y Coleg.
Problemau mewngofnodi?
Os ydych chi'n cael problem wrth fewngofnodi i Moodle, cysylltwch â:
issues.loggingon@gowercollegeswansea.ac.uk
Ffôn: 01792 284082
Efallai yr hoffech chi weld y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen cymorth mewngofnodi
Microsoft 365 i Staff a Myfyrwyr
Fel aelod o staff neu fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae gennych fynediad i Microsoft Office 365.
I gyrchu’r adnodd hwn, bydd angen cyfrif rhwydwaith coleg gweithredol arnoch.
Mewngofnodi Myfyrwyr
Gall myfyrwyr fewngofnodi i 365 trwy ddefnyddio EichEnwDefnyddiwr@stu.gcs.ac.uk ynghyd â’ch cyfrinair coleg.
e.e. bes12240123@stu.gcs.ac.uk
Mewngofnodi Staff
Gall staff fewngofnodi i 365 gan ddefnyddio EichEnwDefnyddiwr@gcs.ac.uk a’ch cyfrinair coleg.
e.e. j.pearce@gcs.ac.uk
Microsoft 365
Swyddfa Rithwir Staff
Mae'r Swyddfa Rithwir yn darparu mynediad diogel i'r Rhyngrwyd i ddefnyddwyr o bell sy'n gallu mewngofnodi a chyrchu adnoddau rhwydwaith preifat drwy dechnoleg SSL-VPN.
Gweld rhestr o’r adnoddau sydd ar gael ar y VPN.
O 20 Ionawr 2023, mae porth staff newydd wedi cael ei lansio i bob aelod o staff. Cliciwch yma i wylio fideo ar sut i fewngofnodi ac yna gallwch gael mynediad i’r porth staff yma.
Swyddfa Rithwir Staff - Terfynu Gwasanaeth
Bydd gwasanaeth Swyddfa Rithwir Staff yn dod i ben ar ddiwedd mis Mehefin (dyddiad terfynol i’w gadarnhau).
Rydym eisoes yn datblygu offeryn mynediad i liniaduron staff y coleg. Bydd hyn yn cynnig mynediad di-dor i systemau a chyfleusterau’r Coleg heb orfod cysylltu â’r Swyddfa Rithwir.
Unwaith y byddwn wedi lawrlwytho’r offeryn newydd i’ch gliniadur, bydd angen i chi rhoi’r gorau i ddefnyddio Swyddfa Rithwir Staff.
Ni fydd angen y gwasanaeth VPN a bydd y system newydd yn atal yr hen system rhag gweithio.
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau ynghylch cael mynediad at adnoddau'r Coleg ar ôl i'r offeryn newydd gael ei osod, cysylltwch â'r Ddesg Wasanaeth TG.
Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth gysylltiedig cyn bo hir.
Fy e-CDU
Drwy'ch e-CDU (cynllun dysgu unigol electronig) gall myfyrwyr gyrchu amrywiaeth o gyfleusterau a gwybodaeth gan gynnwys:
- Cynnydd academaidd
- Targedau
- Presenoldeb
- Amserlen
- Negeseuon a hysbysiadau'r Coleg.
WiFi icon
