Skip to main content
Owls

Gwdihŵs CGA: Gosod y safon yn e-Chwaraeon y DU

Yn dathlu llwyddiant rhyfeddol ym myd gemau cystadleuol, mae tîm e-Chwaraeon clodfawr Coleg Gŵyr Abertawe – Gwdihŵs CGA - wedi cadarnhau eu hetifeddiaeth yn 2023 trwy orffen y flwyddyn ar frig Rhaniad y Gaeaf ym Mhencampwriaethau Myfyrwyr e-Chwaraeon Prydain.

Gyda record ddigyffelyb o fuddugoliaethau 100%, mae’r Gwdihŵs wedi llwyddo yng Nghyngreiriau Rocket, Overwatch a Valorant, gan arddangos eu goruchafiaeth ar draws y cynghreiriau uchel eu parch hyn.

Mae Pencampwriaethau Myfyrwyr e-Chwaraeon Prydain, sy’n binacl ym myd gemau cystadleuol ar gyfer myfyrwyr ysgol a choleg, yn cynnwys dros 700 o dimau a 3,000 o chwaraewyr o bob rhan o’r DU sy’n cystadlu mewn teitlau e-Chwaraeon amrywiol. Ac eto, yng nghanol y gystadleuaeth ffyrnig, Gwdihŵs CGA a ddisgleiriodd, gan hawlio buddugoliaeth a sicrhau eu lle ar frig tirwedd e-Chwaraeon 2023.

Ar yr un diwrnod â gemau olaf Rhaniad y Gaeaf, dangosodd gyrwyr Fformiwla Un Gwdihŵs CGA eu talentau trwy sicrhau buddugoliaeth yn ras gyntaf Cynghrair Rasio Myfyrwyr Williams Esports, a gynhaliwyd ar gylchffordd eiconig Abu Dhabi.

Williams Esports yw cangen electronig tîm Fformiwla Un Williams ac mae’r Gynghrair Rasio Myfyrwyr yn gyfres a gynlluniwyd i gael canolfannau addysgol i dyfu addysg mewn pynciau STEM ac e-Chwaraeon ymhellach. Mae gan Gwdihŵs CGA gynllun rasio sim cystadleuol cynhwysfawr, sydd wedi’i grefftio’n ofalus gyda’u partneriaid diwydiant, GT Omega, Iiyama a Moza. Yn ddiweddar, defnyddiwyd y rigiau gan y myfyrwyr i rasio 1,000 o filltiroedd mewn digwyddiad noddedig a gododd dros £400 i Blant Mewn Angen.

Fe wnaeth Kiran Jones, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Gwdihŵs CGA dynnu sylw at ymroddiad ac ymrwymiad y chwaraewyr.

“Mae llwyddiant ein tîm yn dyst i’w hymroddiad diwyro a’r gefnogaeth a gawson ni gan reolwyr y Coleg a’n partneriaid a’n noddwyr uchel eu parch: GT Omega, Iiyama, Stone Computers, a The Game Collection. Trwy gefnogaeth amhrisiadwy ein partneriaid yn y diwydiant, mae llawer o’n myfyrwyr a allai fod wedi wynebu rhwystrau oherwydd heriau economaidd, wedi cael cyfle i gystadlu ar y lefel uchaf. Mae eu cyfraniadau wedi agor drysau i’r unigolion talentog hyn, gan sicrhau bod ein cymuned e-Chwaraeon yn cael ei chyfoethogi gan gyfranogwyr amrywiol a haeddiannol.”

Pwysleisiodd Neil Griffiths, Cyfarwyddwr e-Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, y manteision addysgol amhrisiadwy a’r sgiliau cyflogadwyedd y mae’r cystadlaethau hyn yn eu cynnig.

“Mae e-Chwaraeon yn fwy na chwarae gemau; mae’r maes yn meithrin sgiliau sy’n anhepgor yn y byd sydd ohoni. Nid tactegau gêm yn unig yw’r meddwl strategol, y gwaith tîm a’r gallu i addasu yn y cystadlaethau hyn; maen nhw’n sgiliau bywyd. Mae ein partneriaethau gyda’n noddwyr a’n cydweithwyr ym myd diwydiant wedi bod yn hollbwysig o ran darparu llwyfan lle mae ein myfyrwyr, waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau, yn gallu harneisio’r sgiliau hyn. Mae’n daith foddhaus lle mae rhwystrau economaidd yn cael eu chwalu a chyfleoedd yn cael eu creu, gan roi modd i’r unigolion hyn ragori a ffynnu mewn amgylchedd a fyddai wedi bod allan o gyrraedd fel arall. Mae cefnogaeth gadarn gan dîm arwain CGA a’n partneriaid wedi helpu i drawsnewid dyheadau yn gyflawniadau.”

Wrth sôn am lwyddiant tîm Valorant, mynegodd capten y tîm Ashton O’Brien sut mae’r gystadleuaeth wedi hybu ei uchelgais i ragori ar y lefelau uchaf. Mae Ashton, sydd ar hyn o bryd yn ail flwyddyn y cwrs BTEC e-Chwaraeon Lefel 3 ac yn y broses o wneud cais i’r brifysgol, wedi canmol yr amgylchedd ysgogol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, sy’n cynnwys siaradwyr gwadd a chyfleoedd fel gwirfoddoli yn Dreamhack, gŵyl gemau fwyaf Ewrop.

Fe wnaeth Daniel Davies, rheolwr tîm Valorant a Rheolwr Cymuned CGA, ganmol y myfyrwyr am gynnal cydbwysedd gwaith/cystadleuaeth, hyd yn oed wrth jyglo swyddi rhan-amser.

“Mae eu hymroddiad yn rhyfeddol ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld beth sydd gan 2024 i ni. Mae’r momentwm ar ein hochr ni ac rydyn ni’n benderfynol o aros ar y brig,” meddai Dan.

Roedd gemau Rhaniad y Gaeaf, y cafodd llawer ohonynt eu ffrydio, wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd, gyda thros 250,000 yn eu gwylio yn fyw ar Twitch. Yn ogystal ag arddangos sgiliau chwarae eithriadol y Gwdihŵs fe wnaeth hyn gadarnhau eu safle fel arloeswyr e-Chwaraeon ar lwyfan rhyngwladol.

Wrth i Gwdihŵs CGA barhau i wneud penawdau ac ailddiffinio tirwedd gemau cystadleuol, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn sefyll yn falch, gan feithrin etifeddiaeth o ragoriaeth ac arloesedd mewn e-Chwaraeon.

Mae dyfodol disglair gan Gwdihŵs CGA, ac mae eu taith i’r brig yn dyst i’r ymroddiad, y sgil a’r gwydnwch sydd wedi’u gwreiddio yng nghymuned Coleg Gŵyr Abertawe.