Skip to main content

AAT Dyfarniad Mynediad mewn Cadw Cyfrifon

Rhan-amser
Lefel 1
AAT
Sketty Hall

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno rôl cyfrifydd a thechnegau cadw cyfrifon syml. 

Deillannau dysgu:

  • Deall rôl y cyfrifydd
  • Deall trafodion ariannol
  • Prosesu trafodion cwsmeriaid a chyflenwyr
  • Prosesu derbynebion a thaliadau

Bwriad AAT Dyfarniad Mynediad mewn Cadw Cyfrifon yw helpu dysgwyr i gael cyflogaeth.

Ychwanegwyd Mehefin 2019

Gwybodaeth allweddol

Nid oes unrhyw ofynion i astudio’r cymhwyster hwn, ond mae’r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn briodol i gynulleidfa benodol yn sgil werthfawr mewn unrhyw rôl ac mewn unrhyw fath o fusnes a bydd yn helpu myfyrwyr i astudio’r cymhwyster hwn.

I gael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau AAT gyda Saesneg a mathemateg o safon dda.

Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Mae’r uned yn cynnwys:-
Cofnodi trafodion yn llyfrau’r prif gofnod, terminoleg cadw cyfrifon, sgiliau cadw cyfrifon ymarferol, asedau, rhwymedigaethau, incwm a threuliau, paratoi anfonebau cwsmeriaid a nodiadau credyd, gwirio anfonebau cyflenwyr a nodiadau credyd a chofnodi’r dogfennau hyn yn llyfrau perthnasol y prif gofnod, llyfrau arian i gofnodi derbynebion a thaliadau, symiau arian parod ac arian yn y banc.

Bydd myfyrwyr yn magu hyder i gyfrannu’n effeithiol at y gweithle ac i symud ymlaen i astudiaethau pellach mewn cadw cyfrifon.

Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol. Mae arholiadau yn asesiadau ar-lein.

Progression Opportunities

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i AAT Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon neu Gyfrifeg ar ôl cwblhau’r lefel hon. Mae cymhwyster Lefel 1 Cadw Cyfrifon ar gael hefyd.

Cydnabyddir cymwysterau AAT gan gyflogwyr fel cymwysterau ymarferol a thechnegol sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer gweithio’n benodol mewn rolau cyfrifyddu a chyllid. Mae’r Dyfarniad Mynediad mewn Cadw Cyfrifon yn gallu arwain at gyflogaeth fel:

  • Cyfrifydd cynorthwyol clercol dan hyfforddiant
  • Swyddog gweinyddol cyfrifon
  • Swyddog gweinyddol/cydlynydd bilio/taliadau
  • Cyfrifydd iau
  • Cynorthwyydd cyfrifon derbyniadwy/taladwy
  • Cynorthwyydd caffael a chyllid

Ariannwr cynorthwyol

Ffioedd Cwrs

£200          

Ffi Gofrestru AAT         

£  44

Ffi Arholiad

£  32