Skip to main content

AAT Dyfarniad Mynediad mewn Meddalwedd Cyfrifeg

Rhan-amser
Lefel 1
AAT
Sketty Hall

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ddefnyddio meddalwedd cyfrifeg. Bydd myfyriwr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu dealltwriaeth o’r manteision a’r risgiau sy’n ymwneud â defnyddio meddalwedd cyfrifeg. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddechrau cyfrif a sut i gofnodi trafodion banc ac arian parod gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifeg. Byddant hefyd yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu amrywiaeth o adroddiadau i ateb anghenion busnes.

Bwriad AAT Dyfarniad Mynediad mewn Cadw Cyfrifon yw helpu dysgwyr i gael cyflogaeth.

Ychwanegwyd Mehefin 2019

Gwybodaeth allweddol

Nid oes unrhyw ofynion i astudio’r cymhwyster hwn, ond mae’r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn briodol i gynulleidfa benodol yn sgil werthfawr mewn unrhyw rôl ac mewn unrhyw fath o fusnes a bydd yn helpu myfyrwyr i astudio’r cymhwyster hwn.

I gael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau AAT gyda Saesneg a mathemateg o safon dda.

Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Mae’r uned yn cynnwys:-

Cofnodi trafodion yn llyfrau’r prif gofnod, terminoleg cadw cyfrifon, sgiliau cadw cyfrifon ymarferol, asedau, rhwymedigaethau, incwm a threuliau, paratoi anfonebau cwsmeriaid a nodiadau credyd, gwirio anfonebau cyflenwyr a nodiadau credyd a chofnodi’r dogfennau hyn yn llyfrau perthnasol y prif gofnod, llyfrau arian i gofnodi derbynebion a thaliadau, symiau arian parod ac arian yn y banc.

Bydd myfyrwyr yn magu hyder i gyfrannu’n effeithiol at y gweithle ac i symud ymlaen i astudiaethau pellach mewn cadw cyfrifon.

Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol. Mae arholiadau yn asesiadau ar-lein.

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i AAT Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon neu Gyfrifeg ar ôl cwblhau’r lefel hon. Mae cymhwyster Lefel 1 Cadw Cyfrifon ar gael hefyd.

Cydnabyddir cymwysterau AAT gan gyflogwyr fel cymwysterau ymarferol a thechnegol sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer gweithio’n benodol mewn rolau cyfrifyddu a chyllid.

Mae’r Dyfarniad Mynediad mewn Cadw Cyfrifon yn gallu arwain at gyflogaeth fel:

  • Swyddog gweinyddol cyfrifon
  • Cyfrifydd dan hyfforddiant
  • Swyddog gweinyddol taliadau
  • Swyddog gweinyddol cofnodi anfonebau
  • Clerc cofnodi data

Ffioedd Cwrs £250

Ffi Gofrestru AAT £44

Ffi Arholiad £32