Clwb Ffasiwn a Thecstilau (Dyfarniad Celfyddydau Aur)
Trosolwg
Mae’r Clwb Ffasiwn a Thecstilau’n cynnig cyfle i bobl ifanc ymgysylltu ag amrywiaeth eang o brofiadau ffasiwn a thecstilau i wella ac ychwanegu at y sgiliau sydd eisoes ganddynt.
Mae’r Dyfarniad Celfyddydau Aur yn gymhwyster Lefel 3 sydd ar agor i bobl ifanc 14-25 oed. Mae gan y dyfarniad 16 o bwyntiau ar dariff UCAS.
Dyfarniad Celfyddydau Aur: Tystysgrif Lefel 3 yn y Celfyddydau – Rhif cymhwyster: 500/9666/7
Ychwanegwyd Medi 2018