Skip to main content

Datblygu Patrymau Arwyneb ar gyfer Cynhyrchion Tecstilau

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Yn ystod y cwrs 10 wythnos hwn byddwch yn archwilio amrywiaeth o dechnegau tecstilau trwy gyfres o weithdai yn yr ystafell ddosbarth. Mae rhai o’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu yn cynnwys pwytho addurniadol, gwehyddu, sgrin-brintio, batic a shibori.  

Byddwch yn datblygu portffolio o waith paratoi seiliedig ar friff y prosiect tecstilau a fydd yn arwain at gynhyrchu cynnyrch terfynol.  

Byddwch yn cynhyrchu syniadau ar gyfer patrwm arwyneb gan gymryd ysbrydoliaeth o’r ardal leol. 

Ychwanegwyd Mehefin 2019

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad blaenorol.

Addysgir y cwrs trwy gyfres o weithdai yn yr ystafell ddosbarth lle cewch eich asesu’n barhaus. Cewch eich asesu ar eich defnydd o dechnegau tecstilau yn ystod y gweithdai a’ch gallu i ddefnyddio’r offer a’r defnyddiau angenrheidiol mewn ffordd ddiogel a phriodol.

Yn ogystal ag ystyried cyrsiau rhan-amser eraill, mae sawl cyfle amser llawn gan gynnwys Lefel 2 Celf a Dylunio, Lefel 3 Celf a Dylunio, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio a Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau.

Bydd yr holl ddefnyddiau’n cael eu darparu.