Skip to main content

Dylunio a Darlunio Ffasiwn

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae’r cwrs cyflwyniad hwn i ddylunio ffasiwn yn eich annog i archwilio ystod eang o dechnegau darlunio digidol a thechnegau darlunio â llaw sy’n berthnasol i ffasiwn.

Byddwch yn arbrofi trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a phrosesau gwahanol er mwyn datblygu darluniadau yn eich arddull unigryw eich hun er mwyn i chi gyflwyno eich gwaith mewn modd cyffrous a diddorol. P’un ai ydych yn bwriadu cyflwyno’ch gwaith yn broffesiynol, creu gwaith ar gyfer eich portffolio neu’n bwriadu dilyn y cwrs er pleser yn unig, byddwch chi’n sicr yn ennill sgiliau gwerthfawr i gefnogi’ch anghenion.

Ychwanegwyd Mehefin 2020

Gwybodaeth allweddol

Cwrs rhagarweiniol yw hwn ac felly does dim angen sgiliau na phrofiad blaenorol.

Addysgir y cwrs hwn mewn gweithdy/stiwdio ac mi fydd yn cael ei ddarparu drwy ystod eang o weithdai ymarferol - tair awr yr wythnos dros 10 wythnos - a bydd yn cael ei asesu yn barhaus.

Mae nifer o gyfleoedd dilyniant yn perthyn i’r cwrs hwn megis cyrsiau rhan-amser eraill, Celf a Dylunio Lefel 2 a Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.