Skip to main content

Dylunio tecstilau cynaliadwy ar gyfer y tu mewn

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn archwilio ffordd arbenigol o adfywio ac ail-lunio hen ffabrigau gan roi cynnig ar ddulliau ymarferol a thraddodiadol wedi’u cyfuno â dulliau modern. Gan ddilyn llyfryn cwrs gorfodol a briff cwrs, byddwch yn creu samplau o waith sy’n arddangos y sgiliau y byddwch chi’n eu dysgu a’u datblygu megis printio  bloc a phrintio â sgrin sidan a defnyddio’r dulliau hyn trwy drin y ffabrig gan ddefnyddio’ch dyluniad patrwm wyneb eich hun.

Gan adeiladu corff o samplau datblygedig ar gyfer darnau tecstilau mewnol terfynol, byddwch yn creu dyluniad arwyneb a fydd yn gorchuddio wyneb y ffabrig o’ch dewis, a byddwch wedyn yn uwchgylchu hwn i ddal pethau fel clustogau, lliain bwrdd, matiau bwrdd, matiau diod, gorchuddion sedd ac ati.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi ffyrdd hawdd ac effeithiol i chi o adfywio defnyddiau a ffabrigau yn ddarnau mewnol, gan eich cynorthwyo gyda sgiliau gydol oes sydd â chynaliadwyedd mewn golwg.

Ychwanegwyd Mehefin 2021

Gwybodaeth allweddol

Byddai cymhwyster Agored Lefel 1 - Prosiect Tecstilau: Technegau Tecstilau Cynaliadwy - yn ddymunol (byddai’n fuddiol i’r myfyriwr) ond nid yw’n ofynnol. Bydd angen sgiliau peiriant gwnïo.

Addysgir y cwrs mewn ystafell ddosbarth llawn cyfarpar ag adnoddau a chyfleusterau ar y safle. Mae’n cynnwys llyfryn cwrs Agored y bydd RHAID i chi ei gwblhau yn ystod y cwrs er mwyn ennill y cymhwyster.