Skip to main content

Dillad Ffasiwn Cynaliadwy (Cyfres yr Haf)

Rhan-amser
Lefel 2
Llwyn y Bryn
5 diwrnod
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn datblygu’ch gwybodaeth o ffasiwn cynaliadwy a enillwyd trwy’r gweithgareddau ymarferol yn ystod y cwrs rhagarweiniol. Byddwch yn ychwanegu at eich gwybodaeth o amrywiaeth o ffibrau a ffabrigau gwahanol a’r effaith y mae pob un yn ei chael ar yr amgylchedd. Cewch gyfle i ddatblygu’ch sgiliau gwnïo a chael eich annog i arbrofi ag amrywiaeth o brosesau gwnïo a defnyddiau, gan gynnwys sgiliau atgyweirio. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o samplau gwnïo dillad i gefnogi’ch prosiectau ac yna byddwch yn cynhyrchu dilledyn ffasiwn gan ddefnyddio defnyddiau wedi’u huwchgylchu o’ch dewis.

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, y cwrs Cyflwyniad i Ffasiwn Cynaliadwy. Fodd bynnag, gallwch ddod heb gwblhau’r cwrs os oes gennych rhywfaint o brofiad o wnïo.

Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau a asesir er mwyn i chi gael eich tystysgrif ar gyfer y cymhwyster. Addysgir y cwrs am 30 awr yn ystod yr wythnos.

Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn gam da nesaf.

Darperir offer, cyfarpar a defnyddiau, ac eithrio ffabrig ar gyfer y dilledyn terfynol.