Sut i Bobi - Nadolig

Rhan-amser
Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i waith yn y diwydiant arlwyo/becws. Yn ystod y cwrs byr hwn, byddwch yn dysgu sut i wneud amrywiaeth o ddanteithion melys yn barod ar gyfer y Nadolig. Gallai’r eitemau a baratoir gynnwys: pwdin Nadolig, mins-peis, peli siocled, cyffug, boncyff Nadolig addurnedig.

Ychwanegwyd Mehefin 2021

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Rhaid bod gennych ddiddordeb mawr mewn gweithio yn y diwydiant arlwyo/becws. Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen gwella’ch sgiliau.

Dull Addysgu’r Cwrs

Nid oes unrhyw asesiadau ffurfiol. Cewch eich arsylwi trwy gydol y sesiynau a chewch adborth llafar ar ddiwedd pob gwers. Darperir ryseitiau, ac fe’ch anogir i’w cadw ar ffurf portffolio bach.

Cyfleoedd Dilyniant

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn. Efallai y byddwch yn dewis cwblhau cwrs byr arall, fel dilyniant naturiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn i chi wisgo cot wen, het ac esgidiau blaen dur (i’w darparu gennych chi). Rhaid clymu gwallt hir yn ôl a’i orchuddio â rhwyd wallt. Ni chaniateir gemwaith na thyllu gweladwy. Dim farnais ewinedd/ewinedd gel. Caniateir ychydig iawn o golur. Bydd yr holl gynhwysion yn cael eu darparu. Fodd bynnag, bydd angen i chi wneud cyfraniad tuag at gynhwysion, tua £7.50 yr wythnos.