Skip to main content

Technegau Gwydr

Rhan-amser
Lefel 3
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau gwydr a chymwysiadau arwyneb, offer defnyddiau ac yn cynnwys technegau gwydr twym. Byddwch yn dysgu am dechnegau hynafol o ffurfio gwydr a gweithio gyda lliwiau seramig. Dyma gyfle go iawn i chi fod yn greadigol ac ychwanegu at eich sgiliau os ydych wedi cwblhau cwrs blaenorol.

Bydd eich tiwtor yn eich annog i ddatblygu’ch ymarfer creadigol eich hun a’ch mentora wrth i chi greu’ch prosiect unigryw eich hun. Gallai hyn gynnwys arbrofi â thoddi gwydr, slympio, defnyddio bwrdd ffibr, decalau a thechnegau gwneud mowldiau neu gyda bias technoleg seramig a gwydr cymysg. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi eisoes wedi dilyn cwrs neu os oes gennych rywfaint o wybodaeth flaenorol ac mae angen ei gloywi neu os ydych am ddatblygu’ch sgiliau ymhellach ar gyfer eich ymarfer creadigol eich hun.

Bydd gennych fynediad i’n cyfleusterau gweithdy gwydr pwrpasol lle gallwch weithio’n gynaliadwy gyda gwydr wedi’i ailgylchu, ffritiau gwydr, conffeti ac ati neu adeiladu 3D gyda gludiau UV, a defnyddio llifanydd ac offer gorffennu. Bydd pob agwedd ar weithio’n ddiogel mewn gweithdy gwydr yn cael sylw a bydd tiwtor profiadol yn eich tywys a’ch mentora.

Ychwanegwyd Gorffennaf 2021

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol.

Addysgir y cwrs trwy weithdai gydag arddangosiadau wythnosol ymarferol a phrosiect personol. Bydd pob dysgwr yn cael llyfryn i gasglu tystiolaeth ysgrifenedig a gweledol, a bydd hwn yn cael ei asesu ynghyd â’r canlyniadau terfynol.

Mae cyfleoedd i symud ymlaen i lefelau Agored eraill yn ogystal â’r cyrsiau Celf a Dylunio Lefel 2, Celf a Dylunio Lefel 3, a’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Ffioedd stiwdio - £20. Gall myfyrwyr brynu cyflenwadau gan y cyflenwyr gwydr canlynol hefyd. www.warm-glass.co.uk/ www.creativeglassshop.co.uk/