#CGAEgnïol

gcsactive

Cynllunydd Gweithgareddau a Digwyddiadau

Darganfyddwch pa ddigwyddiadau cyffrous rydyn ni’n eu dathlu, eu cynnal neu’n mynd iddynt yn ystod pob mis a pha weithgareddau y gallwch chi eu mynychu bob wythnos.

Gweithgareddau’r campysau

P’un a ydych chi’n hoff o chwaraeon, yn greadigol, â doniau academaidd neu’n dwlu ar gemau, mae gyda ni rywbeth i chi. Porwch drwy ein gweithgareddau fesul campws isod.

Ffyrdd eraill o fod yn rhan o #CGAEgnïol

Cyngor y Myfyrwyr

Mae llais gan bob un o’n myfyrwyr ac mae Cyngor y Myfyrwyr yn sicrhau bod y llais hwnnw yn cael ei glywed. Mae pob cwrs yn penodi cynrychiolydd myfyrwyr i godi materion academaidd, pryderon neu broblemau gyda’r cyngor. Byddwch yn ennill sgiliau megis trefnu, dadlau, cyfathrebu, ymgyrchu a llawer mwy!

Gallwch wneud cais i fod yn Fyfyriwr-lywodraethwr hefyd ac eistedd ar y Bwrdd Llywodraethwyr, gan roi barn myfyriwr ar y materion a drafodir gan gorff llywodraethu’r Coleg.

Prosiect Cenia

Er 2003 buom yn meithrin cysylltiadau rhwng ein myfyrwyr ni a’r rhai yn Ysgol Gynradd Madungu yng Ngorllewin Cenia.

Mae ymdrechion codi arian gwych ein myfyrwyr yn golygu bod cyfle gan y bobl ifanc ddifreintiedig hyn i ddysgu, ennill cymwysterau a mwynhau dyfodol gwell.

Efallai y cewch chi gyfle i deithio i Cenia i weld drosoch chi’ch hun pa mor bwysig yw’r arian a godir i’r ysgol.

Academïau Chwaraeon

Rydym yn ymrwymedig i wneud chwaraeon elit a hamdden yn hygyrch i bob myfyriwr heb i hynny effeithio ar ei astudiaethau.

Bydd rhai o gyfleusterau hyfforddi chwaraeon gorau yng Nghymru ar gael i chi, gan gynnwys defnyddio technoleg chwaraeon arbenigol ac ofer ffitrwydd

Gweld y dudalen Academïau Chwaraeon

Menter

Dyma’ch cyfle i ddatblygu’ch sgiliau ar gyfer y gweithle neu redeg eich busnes eich hun.

Fel Hyrwyddwr Menter Myfyrwyr byddwch yn rhan o’r gwaith o drefnu digwyddiadau menter a chewch gyfle i fentora pobl ifanc mewn addysg fenter ar draws Abertawe.

Byddwch yn cael hwyl, yn gwneud ffrindiau newydd, yn datblygu cysylltiadau busnes ac yn mwynhau teithiau gwahanol.

Ffair y Glas

Bob blwyddyn rydym yn cynnal Ffair y Glas ar gampysau Gorseinon a Thycoch.

Dysgwch am y cymorth, y cyfoethogi a’r gweithgareddau sydd ar gael yn y Coleg, cwrdd â ffrindiau newydd, cael nwyddau am ddim a chael hwyl!

Freshers Fayres Freshers Fayres Freshers Fayres Freshers Fayres Freshers Fayres

Myfyrwyr-lysgenhadon

Cymerwch ran a chwarae rôl bwysig yn eich coleg.

Mae bod yn Fyfyriwr-lysgennad yn bleserus ac yn ddiddorol, a chewch gyfle i gwrdd â llawer o bobl newydd a datblygu sgiliau newydd. Bydd yn edrych yn dda ar eich CV hefyd!

Darllen rhagor am y rhaglen llysgenhadon

Student Ambassadors