Skip to main content

Celf a Dylunio Lefel 1 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 1
UAL
Llwyn y Bryn
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae cwrs Diploma Lefel 1 mewn Celf a Dylunio yn rhaglen un flwyddyn sy’n meithrin galluoedd artistig ac yn rhyddhau eich potensial creadigol. Bydd myfyrwyr yn archwilio technegau, defnyddiau a phrosesau celfyddydol amrywiol gan ddatblygu sgiliau mewn darlunio, peintio, cerflunio a chelf ddigidol. Byddwch yn creu celf 2D/3D yn ogystal â ffotograffiaeth, a phrosiectau digidol seiliedig ar amser i ychwanegu at eich sgiliau personol, creadigol a thechnegol.

Dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol gan fynegi syniadau’n weledol. Mae’r rhaglen yn annog arbrofi, meddwl beirniadol, ac archwilio celfyddydol, gan sefydlu sylfaen gref mewn celf a dylunio.

P’un ai ydynt yn ddarpar beintwyr, ddarlunwyr neu ddylunwyr graffig, bydd y diploma hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr ym maes celf a dylunio.

Gwybodaeth allweddol

  • Nifer o raddau D-G ar lefel TGAU
  • Yn amodol ar gyfweliad ac enghreifftiau o waith.

Bydd angen pasio 10 uned (dim arholiadau). Y graddau yw Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn symud ymlaen i’r cwrs Diploma Technegol Lefel 2 mewn Celf a Dylunio neu’r cwrs Diploma Technegol Lefel 2 mewn Ffotograffiaeth.

Mae ffi stiwdio £25 bob blwyddyn ar gyfer y cwrs hwn a bydd hwn yn talu am yr holl adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn.