Gwyddoniaeth Gymhwysol – Gwyddor Ddadansoddol a Fforensig neu Wyddor Fiofeddygol Lefel 3 - Diploma Estynedig
Trosolwg
Addysgir y cwrs dwy flynedd hwn gan ddarlithwyr arbenigol sy’n defnyddio labordai ac ystafelloedd addysgu llawn cyfarpar.
Yn yr ail flwyddyn astudio, mae gan ddysgwyr yr opsiwn i ddilyn y llwybr Gwyddor Ddadansoddol a Fforensig neu Wyddor Fiofeddygol, yn dibynnu ar y llwybr dilyniant o’u dewis. Mae meysydd astudio dros y ddwy flynedd yn cynnwys:
- Egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth*
- Gweithdrefnau a thechnegau gwyddonol ymarferol
- Sgiliau ymchwilio gwyddonol*
- Technegau labordy a’u cymhwyso
- Prosiect ymchwil
- Egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth II*
- Materion cyfoes mewn gwyddoniaeth*
- Rheoleiddio ac atgenhedlu dynol
- Geneteg a pheirianneg enetig
- Cymhwyso cemeg organig
- Dadansoddiad cemegol ymarferol.
*Asesir yn allanol
Mae unedau dewisol yn cynnwys:
- Casglu a dadansoddi tystiolaeth fforensig
- Ymchwiliad fforensig i wrthdrawiadau traffig
neu
- Microbioleg a thechnegau microbiolegol
- Molecylau biolegol a llwybrau metabolaidd.
Gwybodaeth allweddol
Pum gradd C ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, gyda Gwyddoniaeth (dymunol) neu’r cymhwyster BTEC Diploma Cyntaf Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (gyda phroffil Rhagoriaeth/Teilyngdod).
Pum gradd C ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith, Mathemateg ac mae Gwyddoniaeth yn ddymunol hefyd. Neu Wyddoniaeth Gymhwysol (Diploma Cyntaf Lefel 2) gyda phroffil Rhagoriaeth/Teilyngdod.
Dyma gwrs delfrydol ar gyfer symud ymlaen i’r brifysgol. Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio cyrsiau gradd mewn geneteg feddygol, bioleg, hyfforddiant parafeddygol, gwyddor fforensig, technoleg ddeintyddol, troseddeg a biocemeg.
Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru ochr yn ochr â’r prif gwrs a fydd yn cynyddu pwyntiau UCAS ar gyfer mynediad i’r brifysgol.