Skip to main content

Safon Uwch Cyfrifiadureg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Camwch i’r byd y tu ôl i’r dechnoleg. Byddwch yn dysgu sut mae cyfrifiaduron yn gweithio, o raglennu ac algorithmau i ddata, rhwydweithiau a seiberddiogelwch. Adeiladwch eich atebion meddalwedd eich hun, datrys problemau yn y byd go iawn a datblygu’r sgiliau meddwl rhesymegol a chreadigol sy’n pweru popeth o apiau i ddeallusrwydd artiffisial.

Mae’r cwrs yn pwysleisio datblygiad meddwl beirniadol, datrys problemau creadigol, a sgiliau dadansoddi, yn ogystal â’r gallu i weld cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar gyfrifiadureg.

Mae’n rhoi modd i chi ddatblygu sgiliau rhaglennu gan ddefnyddio ieithoedd gweledol modern. Mae diddordeb brwd a brwdfrydedd dros fod eisiau ysgrifennu eich rhaglenni pwrpasol eich hun yn hanfodol ac mae diddordeb mewn caledwedd a meddalwedd yn angenrheidiol gan fod y gwaith theori yn cynnwys llawer o agweddau ar y pynciau hyn.

Datblygir sgiliau mathemategol sy’n berthnasol i gyfrifiadureg a byddwch yn archwilio goblygiadau unigol, cymdeithasol, cyfreithiol a moesegol cyfrifiadureg.

Gwybodaeth allweddol

  • Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU
  • Gradd B mewn TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith
  • Byddai cymhwyster TGAU mewn Cyfrifiadureg/TGCh yn fanteisiol.

Ym Mlwyddyn 1 (UG), byddwch yn astudio dwy uned (40% o Safon Uwch):

  • UNED 1: Hanfodion Cyfrifiadureg (25%)
    Arholiad ysgrifenedig: 2 awr
    (62.5% o gymhwyster UG)
  • UNED 2: Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau (15%)
    Arholiad ar y sgrin: 2 awr
    (37.5% o gymhwyster UG)

Ym Mlwyddyn 2 (Uwch), byddwch yn astudio tair uned (60% o Safon Uwch):

  • UNED 3: Rhaglennu a Datblygu Systemau (20%)
    Arholiad ysgrifenedig: 2 awr
  • UNED 4: Saernïaeth Gyfrifiadurol, Data, Cyfathrebu a Chymwysiadau (20%)
    Arholiad ysgrifenedig: 2 awr
    20% o’r cymhwyster
  • UNED 5: Ateb wedi’i Raglennu i Broblem (20%)
    Asesiad di-arholiad

Mae maes deinamig cyfrifiadureg yn cyflwyno amrywiaeth eang o lwybrau addawol ar gyfer datblygiad gyrfa a thwf personol.

Os ydych yn bwriadu datblygu eich addysg, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol, tra bod eraill yn ei defnyddio fel sylfaen resymegol gadarn i astudio pynciau eraill. Mae myfyrwyr wedi sicrhau lleoedd i astudio’r pwnc hwn mewn llawer o brifysgolion Russell Group nodedig.

Os nad yw’r brifysgol yn apelio atoch, gall y cwrs hwn agor amrywiaeth eang o gyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaeth mewn Datblygu Meddalwedd, Datblygu Gwefan, Dadansoddi Systemau, Dadansoddi Data, Dylunio Rhwydwaith a Dadansoddwr Seiberddiogelwch i enwi dim ond ychydig.

  • Cyfrifiadur personol cartref/gliniadur sy’n gallu rhedeg Windows 10/11 a Microsoft Visual Studio 2022 (Fersiwn Cymunedol - Am Ddim)
  • Gallwch wneud y rhan fwyaf o waith teipio gan ddefnyddio Microsoft Word a Microsoft PowerPoint. Bydd hwn ar gael am ddim trwy Office 365 felly nid oes angen prynu meddalwedd ar gyfer hyn
  • Os ydych yn defnyddio Mac, efallai y bydd angen meddalwedd ychwanegol i redeg y feddalwedd angenrheidiol.