Safon Uwch Dawns
Trosolwg
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn dawns, waeth pa arddull/iau sydd wedi cael eu harchwilio o’r blaen. Mae elfennau ymarferol a theori. Trwy ddosbarthiadau techneg a gweithdai byddwch yn gweithio mewn arddull dawns gyfoes yn bennaf gyda chyfleoedd i archwilio genres eraill. Mae pwyslais ar goreograffi, perfformio a dadansoddi dawns. Byddwch yn gwella eich sgiliau artistig ac yn ennill hyder wrth fynegi eich llais creadigol eich hun.
Yn sail i’ch dysgu ymarferol mae astudiaeth ddamcaniaethol yn darparu ffocws priodol i ymgysylltu’n feirniadol â dawns a deall y rhyngberthynas rhwng creu, cyflwyno a gwerthfawrogi dawns. Egni ac ymrwymiad yw’r prif ofynion ar gyfer y cwrs corfforol a meddyliol hwn.
Amcanion y cwrs:
- Datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau ac arddulliau dawns
- Meithrin creadigrwydd a sgiliau coreograffig
- Gwella galluoedd perfformio a phresenoldeb llwyfan
- Datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol a gwerthuso mewn perthynas â dawns.
Canlyniadau’r cwrs:
- Ennill gwybodaeth eang am hanes dawns a gwahanol arddulliau
- Datblygu hyfedredd mewn coreograffi a pherfformio darnau dawns
- Arddangos dealltwriaeth feirniadol o ddawns trwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol
- Paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa mewn dawns, addysg uwch neu gyflogaeth.
Gwybodaeth allweddol
- Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith
- Mae TGAU Dawns yn fuddiol ond nid yw’n angenrheidiol, gan fod unrhyw berfformiad blaenorol neu brofiad o ddawns yn fuddiol.
Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o weithdai ymarferol, gwersi theori, a chyfleoedd perfformio.
Addysgu llinol: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am ddarpariaeth linol yn eich cyfweliad. Mae darpariaeth linol yn golygu efallai na fydd gennych yr opsiwn o sefyll arholiad UG ar ddiwedd eich blwyddyn gyntaf.
Asesu:
YMARFEREOL
Perfformiad unawd cysylltiedig ag ymarferwr penodedig mewn maes astudio. Perfformiad mewn pedwarawd. Coreograffi grŵp.
Sut mae’n cael ei asesu:
- Arholiad ymarferol
- 80 marc
- 50% o Safon Uwch.
THEORI
Gwybodaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o ddau waith gosod:
- Un gwaith gosod gorfodol o fewn y maes astudio gorfodol
- Un gwaith gosod dewisol o fewn y maes astudio cyfatebol – mae dewis o bedwar.
Sut mae’n cael ei asesu:
- Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
- 100 marc
- 50% o Safon Uwch.
Cwestiynau
Dwy adran:
- Adran A: cwestiynau ateb byr (25 marc) ac un cwestiwn traethawd (25 marc) ar y gwaith gosod gorfodol/maes astudio
- Adran B: dau gwestiwn traethawd ar yr ail waith gosod/maes astudio (25 marc am bob traethawd).
Ar ôl cwblhau’r cwrs Safon Uwch Dawns yn llwyddiannus, byddwch yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn llwybrau amrywiol o fewn y diwydiant dawns. Mae llwybrau dilyniant posibl yn cynnwys:
- Addysg Uwch: Gallech symud ymlaen i gyrsiau dawns lefel prifysgol, fel BA (Anrh) Dawns, Gwyddor Dawns, neu Addysg Dawns
- Hyfforddiant Proffesiynol: Gallech ystyried hyfforddiant dawns galwedigaethol mewn sefydliadau dawns nodedig
- Gyrfaoedd Perfformio: Gallech ddilyn gyrfa fel dawnsiwr, coreograffydd, athro/athrawes dawns, neu therapydd dawns
- Gweinyddu’r Celfyddydau: Gallech archwilio cyfleoedd ym maes rheoli dawns, cynhyrchu, neu guradu. Bydd ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn rhoi arweiniad a chymorth, gan eich helpu i lunio eich dyfodol ym myd bywiog dawns.