Skip to main content

Safon Uwch Drama

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Bwriedir y cwrs hwn i fyfyrwyr sy’n angerddol am actio a theatr, ac sydd am astudio Drama yn fanwl. Mae’n cynnwys elfennau ysgrifenedig ac ymarferol a fydd yn eich annog i ddatblygu dealltwriaeth ragorol o berfformiad theatr. Mae ffocws cryf ar wella eich sgiliau perfformio a’ch gallu i ddadansoddi theatr.

Amcanion y cwrs:

  • Profi ystod o gyfleoedd fel gwneuthurwr theatr i greu a dehongli sgriptiau cyhoeddedig a gwaith dyfeisiedig
  • Datblygu a chymhwyso gwybodaeth ar gyfer dehongli a deall drama a theatr
  • Dadansoddi a gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Meithrin gwybodaeth fanwl o sgriptiau cyhoeddedig y pwnc
  • Datblygu sgiliau perfformio wrth greu a dehongli deunydd ar gyfer perfformiad
  • Arddangos dealltwriaeth feirniadol o ddrama trwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys B yn Saesneg laith
  • Diddordeb byw mewn drama ac ymrwymiad i ddysgu. Er bod TGAU Drama yn ddelfrydol, mae unrhyw brofiad o berfformio yn fuddiol
  • Rydym yn croesawu myfyrwyr o gefndiroedd perfformio amrywiol.

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o weithdai ymarferol a gwersi theori.

Asesu:

YMARFEROL UG: Uned 1

  • Ailddehongli sgript bresennol
  • Perfformio deunydd yn arddull cwmni neu ymarferwr cydnabyddedig
  • Cofnod creadigol
  • Gwerthuso.

Sut mae’n cael ei asesu:

  • Arholiad ymarferol a gwaith cwrs ategol
  • 90 marc
  • 24% o Safon Uwch.

YMARFEROL SAFON UWCH: Uned 3

  • Ymateb i ysgogiad gan CBAC
  • Darn o destun mewn arddull perfformio gwahanol
  • Perfformiad dyfeisiedig yn arddull cwmni neu ymarferwr cydnabyddedig
  • Proses ac Adroddiad Gwerthuso.

Sut mae’n cael ei asesu:

  • Arholiad ymarferol a gwaith cwrs ategol
  • 120 marc
  • 36% o Safon Uwch.

THEORI UG: Uned 2

Gwybodaeth, dealltwriaeth a dadansoddiad beirniadol o un testun gosod.

Sut mae’n cael ei asesu:

  • Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud
  • 60 marc
  • 16% o Safon UG.

THEORI U2: Uned 4

Gwybodaeth, dealltwriaeth a dadansoddiad beirniadol o ddau destun gosod.

Sut mae’n cael ei asesu:

  • Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
  • 95 marc
  • 24% o Safon Uwch.

Ar ôl cwblhau’r cwrs Safon Uwch Drama, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn llwybrau amrywiol. Mae llwybrau dilyniant posibl yn cynnwys:

  • Addysg Uwch: Gallech symud ymlaen i gyrsiau drama lefel prifysgol, fel BA (Anrh) Drama, Therapi Drama, neu Addysg Drama
  • Hyfforddiant Proffesiynol: Gallech ystyried hyfforddiant drama galwedigaethol mewn sefydliadau dawns nodedig
  • Gyrfaoedd Perfformio: Gallech ddilyn gyrfa fel actor, cyfarwyddwr, neu athro/athrawes
  • Gweinyddu’r Celfyddydau: Gallech archwilio cyfleoedd mewn drama/theatr/rheoli digwyddiadau neu gynhyrchu. Bydd ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn rhoi arweiniad a chymorth, gan eich helpu i lunio eich dyfodol ym myd bywiog dawns.

  • Mae’r cwrs yn amser llawn ac yn cael ei addysgu yng Nghanolfan y Celfyddydau ar Gampws Gorseinon y Coleg. Mae’n seiliedig ar 4.5 awr addysgu yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd
  • Fel rhan o’r cwrs cewch eich annog i wylio theatr fyw
  • Byddwch yn mynd ar deithiau i leoliadau allanol, gweld gwaith perfformio ar-lein a chymryd rhan lawn mewn gweithdai gan ymarferwyr gwadd. Fel rhan o’ch llwybr dilyniant personol cewch gymorth gyda cheisiadau UCAS a cholegau arbenigol
  • Ffi cwrs £100 i dalu am gost gweithdai a theithiau.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.