Skip to main content

Therapi Harddwch Lefel 1 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 1
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster rhagarweiniol hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr a hoffai ddechrau eu taith yn y diwydiant harddwch. Byddwch yn ennill sgiliau a gwybodaeth hanfodol mewn triniaethau gofal croen sylfaenol, colur, triniaethau dwylo a thraed, gan fagu hyder a dealltwriaeth o ymarfer mewn salon proffesiynol.

Mae meysydd astudio yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i’r sector gwallt a harddwch
  • Cyflwyno delwedd broffesiynol mewn salon
  • Y grefft o golur ffotograffig
  • Darparu triniaeth dwylo sylfaenol
  • Darparu triniaeth traed sylfaenol
  • Coluro sylfaenol
  • Dilyn iechyd a diogelwch yn y salon
  • Gweithio gydag eraill yn y sector gwallt a harddwch
  • Creu delwedd gwallt a harddwch
  • Dyletswyddau derbynfa salon
  • Celf ewinedd
  • Gofal Croen
  • Peintio wynebau â thema.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd D mewn TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith neu gymhwyster Lefel 1 cyfathrebu a chymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf fod â chymhwyster ESOL Lefel 2
  • Rhaid i ymgeiswyr ddod i gyfweliad a dangos diddordeb brwd mewn therapi harddwch.

Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos.

Asesiad ymarferol parhaus ac aseiniadau ysgrifenedig.

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs. Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad (mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael).

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) therapi harddwch ac mae’n cael ei gydnabod gan gymdeithas broffesiynol flaenllaw’r DU, Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain (BABTAC) fel un sy’n addas i’r diben i’ch paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch. Mae deiliaid y cymhwyster hwn yn gymwys i ddod yn aelod proffesiynol o BABTAC.