Triniaethau Therapi Harddwch Lefel 3 - Diploma
Trosolwg

Datblygwch eich sgiliau therapi harddwch mewn amgylchedd proffesiynol a masnachol a pharatoi ar gyfer gyrfa gyffrous yn y diwydiant. Mae’r cwrs yn berffaith ar gyfer dysgwyr brwdfrydig â diddordeb angerddol mewn harddwch sydd am fagu hyder, gloywi technegau, a datblygu sylfeini proffesiynol cryf.
Mae meysydd astudio yn cynnwys:
- Therapïau trydanol i’r wyneb a’r corff
- Microdermabrasion
- Therapi tylino’r corff
- Tylino cerrig poeth ac oer
- Triniaethau lliw haul
- Estyniadau amrannau unigol
- Anatomeg a ffisioleg
- Iechyd a diogelwch
- Gofal cleientiaid a chyfathrebu
- Gweithio mewn diwydiannau sy’n ymwneud â harddwch.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf dair gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith ac, yn ddelfrydol, Gwyddoniaeth neu gymhwyster cyfathrebu a chymhwyso rhif cyfwerth Sgiliau Hanfodol Cymru a chymhwyster Lefel 2 cysylltiedig
- Bydd angen i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf fod â chymhwyster ESOL Lefel 2.
Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos.
Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig.
Gallai’r cymhwyster hwn arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth fel therapydd harddwch uwch mewn salon/sba harddwch neu hunangyflogaeth. Mae cyfleoedd hyfforddi pellach yn cynnwys:
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Triniaethau Micro Dermabrasion
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Nodwyddau Croen
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Pilio Croen.
Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs. Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad (mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael).
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) therapi harddwch ac mae’n cael ei gydnabod gan gymdeithas broffesiynol flaenllaw’r DU, Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain (BABTAC) fel un sy’n addas i’r diben i’ch paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch. Mae deiliaid y cymhwyster hwn yn gymwys i ddod yn aelod proffesiynol o BABTAC.